Mae Sebastian Coe wedi dweud nad yw’n dymuno bod yn Gadeirydd nesaf Ymddiriedolaeth y BBC.
Roedd y cyn-redwr, sydd hefyd yn Gadeirydd y British Olympic Association, yn un o’r ffefrynau i gael y swydd… ond mae wedi dweud yn blwmp ac yn blaen mewn cyfweliad gyda phapur y Daily Mail nad yw’n “addas” ar gyfer y job.
“Mi wnes i ganiatau i fy enw gael ei gynnig,” meddai, “a hynny er mwyn rhoi ychydig o amser i mi fy hun asesu p’un ai oedd gen i amser i wneud y gwaith gorau medrwn i.
“O edrych yn ôl, dw i ddim yn credu fy mod i’n addas na bod gen i’r amser i wneud y gwaith – oherwydd ymrwymiadau eraill ac etholiad y Gymdeithas Ryngwladol o Sefydliadau Athletau (IAAF).
“Fel y mae pawb yn ymwybodol, mae athletau yn fy DNA.”