Mae’r cyflwynydd teledu, Clare Balding, wedi galw ar ddarlledwyr i ddangos chwaraeon merched ar y teledu.

Ar hyn o bryd mae Clare Balding, 43, yn un o brif gyflwynwyr y BBC o Gemau’r Gymanwlad yng Glasgow.

Dywedodd wrth gylchgrawn y Radio Times: “Mae angen mwy o chwaraeon merched ar y teledu. Mae angen i ferched weld menywod yn llwyddo mewn chwaraeon, ac i weld chwaraeon fel gyrfa posib.”

Ychwanegodd Clare Balding ei bod hi hefyd yn annog rheolwyr sianeli i ddangos mwy o “chwaraeon byw”.