Mae nifer y bobl sy’n cymryd eu cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth wedi gostwng dros 60% yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd gan undeb y TUC heddiw.

Mae’r dadansoddiad, sydd wedi cael ei gyhoeddi i nodi blwyddyn ers cyflwyno ffioedd tribiwnlys, yn dangos mai dim ond 165 o weithwyr yng Nghymru gymrodd eu cyflogwr i dribiwnlys dros ddiswyddo annheg rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2014, o’i gymharu â 433 yn ystod yr un cyfnod yn 2013.

Mae’r TUC yn dweud bod y cwymp yn dangos bod llawer o bobl wedi cael eu “prisio allan” o gyfiawnder, gyda gweithwyr ar gyflogau isel yng Nghymru yn cael eu heffeithio’n waeth na’r rhan fwyaf.

Mae ffigurau Llywodraeth y DU yn dangos mai dim ond un o bob pedwar gweithwyr a wnaeth gais am gymorth ariannol gafodd unrhyw fath o gymorth ers i ffioedd tribiwnlys cyflogaeth gael eu cyflwyno yng Ngorffennaf 2014

O dan y system newydd, mae gweithwyr sy’n ennill yr isafswm cyflog yn wynebu ffioedd o hyd at £1,200 os oes gan unrhyw aelod o’u cartref arbedion o £3,000 neu fwy.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield: “Dyw’r cwymp enfawr mewn achosion yn sicr ddim yn golygu bod cyflogwyr yng Nghymru wedi mynd yn fwy clên dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Yn hytrach, mae dilyn cwyn yn erbyn cyflogwyr wedi mynd yn rhy ddrud i lawer o weithwyr, a dyw hynny ddim yn iawn.

“Mae’n ymddangos bod ffioedd tribiwnlys yn rhan o ymgyrch ehangach y llywodraeth y DU i gael gwared ar hawliau sylfaenol gweithwyr.”