Dylai bancwyr dyngu llw o wasanaeth da yn yr un modd â meddygon, yn ôl melin drafod.
Yn hytrach na dim ond canolbwyntio ar reolau neu faterion economaidd, mae angen i reoleiddwyr ystyried ymddygiad bancwyr meddai ResPublica, melin drafod annibynnol sy’n edrych ar broblemau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.
Mae’r alwad am foesau cryfach yn y diwydiant bancio yn dod ar ôl cyfres o sgandalau fel cam-werthu yswiriant, cam-werthu cyfnewidiadau ddiddordeb i fusnesau bach a hyd yn oed gwyngalchu arian.
Mae ResPublica wedi galw ar Gymdeithas Bancwyr Prydain, Cymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu a’r Cyngor Adolygiad Safonau Bancio newydd i fabwysiadu llw maen nhw wedi llunio ar gyfer eu haelodau.
Mae llw’r felin drafod yn seiliedig ar y llw Hippocratic mae meddygon yn tyngu.
Mae banciau’n cyflogi ychydig o dan 440,000 o staff, sy’n cyfateb i tua 1.4% o weithlu’r Deyrnas Unedig.