Mae’r fyddin wedi ffrwydro nifer o ddyfeisiadau gafodd eu canfod mewn fflat yn Newhall yn Swydd Derby ddoe.
Mae dyn 55 oed yn y ddalfa a hyd at 200 o bobl yn parhau i fethu fynd adref ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i’r dyfeisiadau mewn fflat yn Belvoir Crescent.
‘Dyw Heddlu Swydd Derby ddim yn chwilio am unrhyw un arall ynglyn â’r ffrwydron.
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Paul Callum y bydd y trigolion yn cael dychwelyd i’w cartrefi cyn gynted ag sy’n bosibl ond mai diogelwch y cyhoedd sydd bwysicaf mewn sefyllfaoedd fel hyn.