"Dylid symud Cwpan y Byd o Rwsia" medd Nick Clegg (Llun llyfrgell)
Mae Nick Clegg wedi dweud na ddylid caniatau i Rwsia gynnal Cwpan y Byd yn 2018 oherwydd cefnogaeth yr Arlywydd Putin i’r gwrthryfelwyr yn yr Wcrain.

Credir bod yr awyren syrthiodd yn yr Wcrain yn ddiweddar gan ladd 298 o bobl wedi cael ei dinistrio gan wrthryfelwyr oedd yn defnyddio taflegryn yr oeddyn nhw wedi ei gael gan Rwsia.

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog yn awgrymu y dylid cynnal y bencampwriaeth yng Ngwledydd Prydain.

“Mae gennym ni’r is-adeiledd, y stadia, y profiad ag awydd a chefnogaeth y cyhoedd,” ychwanegodd.

Mewn erthygl yn y Sunday Times, mae Mr Clegg hefyd yn dadlau y dylid canslo pencampwriaeth rasio ceir Fformiwla Un fydd yn cael ei chynnal yn Sochi ym mis Hydref.

Os na fydd y digwyddiadau yma yn cael eu canslo neu eu symud medd Mr Clegg, “bydd y byd yn edrych mor wan a rhagrithiol.”

Gwrthod y syniad

Cafodd y syniad o symud Cwpan y Byd ei wyntyllu yr wythnos diwethaf gan wleidyddion o’r Almaen – a’i wrthod yn syth gan y trefnwyr FIFA ddywedodd y gallai cynnal y pencamwpriaeth yn Rwsia “ fod yn llesol.”

Mae pennaeth Fformiwla Un, Bernie Ecclestone hefyd wedi gwrthod canslo’r Grand Prix.