Mae Cymru wedi parhau i gasglu medalau yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow heddiw – gan gynnwys ail aur y dydd i Natalie Powell yn y jiwdo.
Mae’r feicwraig, Elinor Barker, hefyd wedi cipio efydd yn y ras seiclo 10km sgratsh, ac fe lwyddodd i gipio’r trydydd safle reit ar ddiwedd y ras ar ôl gwasgu heibio i’r Albanes Katie Archibald a Danielle King o Loegr.
Annette Edmondson o Awstralia gipiodd yr aur, gydag Amy Cure hefyd o Awstralia yn ail.
Yng nghystadleuaeth codi pwysau’r 58kg i ferched fe lwyddodd Michaela Breeze i gipio medal efydd hefyd.
Fe dorodd Breeze record y Gymanwlad yn rhan gyntaf snatch y gystadleuaeth, cyn dod yn bumed yn y clean & jerk, gan orffen yn drydydd yn y gystadleuaeth yn y gyfan gwbl.
Mae Jack Thomas hefyd wedi ennill medal efydd yn y pwll yn ras para-nofio 200m dull rhydd y dynion, ac mae Mark Shaw hefyd wedi ychwanegu efydd arall yng nghystadleuaeth dros 100kg y jiwdo.