Mae Pencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd Ewrop yn dod i Abertawe y mis nesa’.

Fe fydd 52 o dimau, yn cynrychioli 16 o wledydd, yn dod ynghyd ar ffurf timau o ddynion, merched a thimau cymysg.

Ac fe fydd Cymru’n awyddus i adennill y teitl a gipiodd yn Bristol yn 2010.

Fe fydd holl bencampwriaeth yn cael ei chynnal yng nghanolfan chwaraeon Prifysgol Abertawe rhwng Awst 5 a 10.

Fe fydd y gemau cynta’n dechrau am 8 o’r gloch y bore, a’r gemau ola’n gorffen am 6. Mae mynediad i wylio’r gemau am ddim.