Usain Bolt
Mae’r sbrintiwr Usain Bolt wedi cyrraedd Glasgow, ar gyfer cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae’r rhedwr o Jamaica wedi cyrraedd Maes Awyr Glasgow y prynhawn yma, ar awyren o Lundain.

Roedd yn gwisgo sbectol ddu a chap pel-fas, ac fe gododd fawd ar y pibydd Albanaidd oedd yn chwarae pan laniodd ar dir yr Alban.

Roedd torf dda wedi cyrraedd hefyd i gymeradwyo ac i dynnu lluniau o’r dyn cyflyma’ yn y byd… ond dim ond cip sydyn gawson nhw wrth iddo fynd ar y grisiau symudol tuag at yr ardal casglu bagiau. Gadawodd yr adeilad trwy ddrws ochr.