Mae Frankie Jones wedi cipio medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad eleni, ar ôl ennill cystadleuaeth unigol rhuban y gymnasteg rythmig heddiw.
Yn gynharach roedd Jones eisoes wedi ennill arian yng nghystadlaethau unigol i ffyn, cylch a phêl, gyda Laura Halford hefyd yn ennill medal efydd yn y perfformiad pêl.
Ac ar ôl pum medal arian – oedd yn cynnwys rhai unigol a thîm yn gynharach yn yr wythnos – roedd y rhyddhad yn amlwg ar wyneb Frankie Jones wrth iddi ennill cystadleuaeth gymnasteg olaf y dydd.
Mae’n mynd a chyfanswm medalau Cymru i un ar ddeg, gydag un aur, chwe arian a pedwar efydd ar gyfer y Gemau, gydag wyth o’r rheiny yn dod yn y gymnasteg.