Fe ychwanegodd Gymru bum medal i’w chyfanswm yng Ngemau’r Gymanwlad ddoe, wedi rhagor o lwyddiant yn y gymnasteg rythmig ac athletwyr hefyd yn serennu mewn saethu, seiclo a nofio.

Y para-seiclwyr tandem oedd y cyntaf o’r Cymry i gyrraedd y podiwm ar ail ddiwrnod y cystadlu, wrth i Ieuan Williams a Matthew Ellis gipio efydd i Gymru yn ras dreial amser B 1000m.

Yr Albanwyr gipiodd yr aur yn y ras honno mewn amser o 1:02.096, ychydig o flaen Awstralia, gyda beic tandem Cymru rhyw ddwy eiliad y tu ôl i’r amser hwnnw ond dros eiliad o flaen y tîm ddaeth yn bedwerydd.

Funudau’n ddiweddarach roedd gan Gymru ei hail fedal o’r dydd, wrth i Elena Allen orffen yn ail yn ffeinal saethu skeet y merched ar ôl colli 14-13 i Laura Coles o Awstralia yn y rownd olaf.

Fe gododd cyfanswm Cymru i bedwar am y dydd toc cyn 17.30yp, wrth i gystadleuaeth y gymnasteg rythmig unigol ddod i ben gyda Frankie Jones yn cipio’r fedal arian a Laura Halford yn gorffen gyda’r fedal efydd.

Roedd y ddwy ohonyn nhw ar y blaen tan i’r cystadleuydd olaf o Ganada gipio’r aur, ond o gofio mai Canada enillodd gystadleuaeth y tîm ar y dydd Iau, pan enillodd y gymnastwyr fedal gyntaf Cymru o’r Gemau, efallai bod hynny i’w ddisgwyl.

Fe gipiodd Cymru eu pumed medal o’r dydd yn y pwll wedyn, ar ôl i Calum Jarvis orffen yn drydydd yn ffeinal ras 200m dull nofio rhydd y dynion, 0.21 eiliad yn unig o flaen David Mckeon o Awstralia.

Ond doedd hi ddim yn fêl i gyd i athletwyr Cymru, gydag Owain Doull yn methu allan ar fedal o drwch blewyn yn y ras seiclo trac unigol 4000m, a’r bocsiwr Andrew Selby allan yn rownd gyntaf ei gystadleuaeth ef.

Roedd cwmwl du hefyd dros dîm Cymru i ffwrdd o’r cystadlu, ar ôl i un o’u sêr athletau Rhys Williams orfod tynnu yn ôl o Gemau’r Gymanwlad ar ôlmethu prawf cyffuriau.

Manylion hynny a mwy am gystadlu ddoe ar flog byw dydd Gwener.