Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf am y Cymry sy’n cystadlu heddiw.

*Frankie Jones yn ennill aur cyntaf Cymru

*Pedair medal arian hefyd i’r gymnastwraig

*Ail aur i Natalie Powell yn y jiwdo

*Arian yn y pwll i Georgia Davies

*Efydd i Halford, Barker, Breeze, Thomas a Shaw

21.56: Wel, dyna ddiwedd ar ddiwrnod arall o gystadlu i’r Cymry, ac am ddiwrnod. Un ar ddeg medal i ychwanegu at y chwech roedden nhw eisoes wedi ennill, gan gynnwys aur i Frankie Jones yn y gymnasteg rythmig a Natalie Powell yn y jiwdo.

Dim ond deg arall sydd ei angen ar dîm Cymru i gyrraedd y targed a osodwyd cyn y Gemau, ac maen nhw eisoes o fewn dau i’w cyfanswm nhw o Delhi bedair blynedd yn ôl.

Rhai canlyniadau hwyr i chi, mae tîm rygbi saith bob ochr Cymru newydd golli 17-12 i Samoa ond roedden nhw eisoes drwyddo yn y grŵp.

Yn y pwll mae tîm ras gyfnewid 4x200m dull rhydd y merched newydd ddod yn olaf yn eu ffeinal. Yn gynharach yn y rhagbrofion nofion, fe aeth Marco Loughran drwyddo i ffeinal 50m y dull cefn, ond Otto Putland a Calum Jervis allan yn ras gynderfynol 100m y dull rhydd ac Alys Thomas hefyd allan ym 50m y dull pili pala.

Ac fe enillodd tîm pêl-rwyd y merched eu gêm gyntaf heno ar ôl trechu Trinidad a Tobago 50-31. Fe fyddwn ni nôl fory gyda’r blog unwaith eto ond am nawr, nos da!

21.09: MEDAL ARIAN I GYMRU!

Mae’r diwrnod gwych yma’n parhau i dîm Cymru, wrth i Georgia Davies gipio un ar ddegfed medal Cymru heddiw! Mae hi newydd orffen yn ail yn ffeinal 100m dull cefn y merched yn y pwll, gan fethu allan ar yr aur o 0.21 eiliad yn unig.

20.26: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Y medalau’n parhau i lifo i Gymru – Mark Shaw yw’r diweddaraf i gasglu un ar ôl gorffen yn drydydd yng nghategori dros 100kg jiwdo’r dynion.

19.51: Yn ogystal â ffeinalau’r nofio heno mae gan rai o’r Cymry ragbrofion yn y pwll, gan gynnwys Otto Putland a Calum Jarvis yn y 100m dull rhydd, Alys Thomas yn y 50m dull pili pala, a Marco Loughran yn y 50m dull cefn.

Fe fydd y tîm rygbi saith bob ochr yn herio Samoa heno hefyd – maen nhw bellach wedi ennill ail gêm eu grŵp 0 29-7 yn erbyn Papua Guinea Newydd.

Rhywfaint o ganlyniadau bowlio lawnt i chi hefyd. Trioedd y dynion wedi curo Lloegr 16-15 yn rownd yr wyth olaf, ond Caroline Taylor wedi colli 13-21 i Catherine McMillen o Ogledd Iwerddon yn senglau’r merched, a pharau’r dynion wedi colli 9-17 i Malaysia.

19.41: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Jack Thomas yw’r diweddaraf i ychwanegu at gasgliad medalau Cymru heddiw, gyda medal efydd yn y pwll yn ras para-nofio’r 200m dull rhydd i ddynion.

Lot mwy o gystadlu i ddod yn y pwll heno, gan gynnwys ffeinalau i Georgia Davies yn 100m dull cefn y merched, Rob Holderness yn 100m dull broga’r dynion, a merched Cymru yn ras gyfnewid dull rhydd 4x200m.

18.41: MEDAL AUR I GYMRU!

Ail fedal aur heddiw i Gymru! Natalie Powell sydd yn cipio’r fedal aur yn ffeinal y jiwdo 78kg i ferched, ar ôl trechu Gemma Gibbons o Loegr.

Y ferch o Bowys yn cipio mantais gynnar yn yr ornest ac yna’n dal ymlaen i ennill – wythfed medal Cymru heddiw. Ddim yn ffôl o gwbl!

18.38: Mae ’na fedal ar y ffordd i Gymru’n fan hyn …

17.31: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Michaela Breeze yn gorffen cystadleuaeth codi pwysau 58kg y merched yn drydydd ac felly medal efydd iddi hi.

Fe dorodd hi record y Gymanwlad yn y ‘snatch’, ond yn ail ran ‘clean & jerk’ y gystadleuaeth dim ond pumed oedd hi, ac felly’n cipio’r efydd. Christie Williams yn gorffen yn 13eg yn yr un gystadleuaeth.

16.49: Michaela Breeze yn gwneud yn dda iawn yn y gystadleuaeth codi pwysau 58kg ar hyn o bryd, a newydd dorri record Gymanwlad, felly gobaith o fedal yn fanno nes ymlaen hefyd.

Yn ffeinal saethu pistol aer 10m y merched gynnau fodd bynnag, dim cystal lwc i Jenny Corish a orffennodd yn wythfed, ac yn ffeinal ras gyfnewid cymysg y triathlon yn gynharach wythfed oedd tîm Cymru hefyd.

Colli eto oedd hanes dynion Cymru yn yr hoci hefyd, y tro yma o 7-1 yn erbyn Awstralia.

Joseph Cordina drwyddo i 16 olaf y bocsio 60kg i ddynion, ond yn y saethu mae Malcolm Allen allan o skeet y dynion a Coral Kennerley a Shawnee Bourner allan o bistol 25m y merched.

Ar y trac seiclo yn gynharach fe aeth John Mould, Owain Doull a Sam Harrison drwyddo yn ras pwyntiau’r dynion.

16.38: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Ar y trac seiclo, mae Elinor Barker newydd gipio medal efydd yn ras sbrint ‘scratch’ y seiclo i ferched! 40 lap o wibio o gwmpas y trac, ond Barker yn cael ei hun mewn safle da i gipio trydydd o drwch blewyn.

12.32: Seremoni fedal Frankie Jones nawr, felly’r cyfle cyntaf i glywed Hen Wlad Fy Nhadau ar y podiwm yng Nglasgow.

Mwy o gystadlu’r prynhawn yma yn y saethu, seiclo, codi pwysau a triathlon tîm ymysg eraill – fe ddown ni a chanlyniadau’r rheiny nes ymlaen.

12.27: Cymru’n cipio eu medal aur cyntaf yng Nglasgow eleni felly! Frankie Jones yn ennill cystadleuaeth rhuban y gymnasteg rythmig, er gwaethaf protest hwyr gan y Canadiaid.

Fe fydd hi wrth ei bodd, ar ôl ennill pum medal arian eisoes yr wythnos hon.

Mae Cymru hefyd wedi ennill eu gêm gyntaf yn y rygbi saith bob ochr, gyda llaw, o 52-0 yn erbyn Malaysia, a nofwyr ras gyfnewid 4x200m merched Cymru wedi dod yn bumed yn eu rhagbrawf nhw.

12.24: MEDAL AUR I GYMRU!

Frankie Jones yn ennill medal aur cyntaf Cymru yn Glasgow!

12.22: Lot o ganlyniadau i’r Cymry yn y pwll hefyd. Chloe Tutton yn bedwerydd a Bethan Sloan yn chweched yn rhagbrawf 200m dull broga’r merched, Jack Thomas drwyddo yn bedwerydd y para 200m dull rhydd i ddynion, a Marco Loughran hefyd drwyddo i ffeinal 50m y dull cefn.

Alys Thomas drwyddo yn ras 50m y dull pili pala, ac yn rasys 100m dull rhydd y dynion mae Otto Putland a Calum Jarvis drwyddo ond Ieuan Lloyd ddim.

Frankie Jones, gyda llaw, yn safle’r fedal aur yn y gymnasteg – ac mae’r ferch o Ganada sydd wedi ennill popeth hyd yn hyn wedi bod – felly aur cyntaf Cymru ar y gweill?

12.04: Amser am rai o ganlyniadau y bore i chi, a’r bowlwyr lawnt sydd gyntaf.

Caroline Taylor wedi colli yn senglau merched i Lucy Beere o Guernsey 17-21 yn anffodus, ond trioedd y dynion wedi ennill 17-10 yn erbyn yr Alban i orffen ar frig eu grŵp.

Yn y saethu, fe orffennodd Coral Kennerley yn 14eg a Shawnee Bourner yn 25ed yn y saethu pistol 25m i ferched, mae Malcolm Allen drwyddo yn y rhagbrawf skeet y dynion ond Rhys Price ddim, a Jenny Corish drwyddo ond Sian Corish ddim yn saethu pistol aer 10m y merched.

Yn y tenis bwrdd fe gollodd tîm merched Cymru 3-0 (3-0, 3-2, 3-0) i Awstralia, ac mae Ruslan Rancev a Mark Shaw wedi colli yn rownd wyth olaf 100kg jiwdo y dynion.

Mae Natalie Powell, fodd bynnag, wedi ennill ei gornest cynderfynol yn y jiwdo 78kg i ferched, ac felly fe fydd hi’n cystadlu am aur neu arian yn nes ymlaen heno!

11.35: MEDAL ARIAN I GYMRU!

Frankie Jones eto, yn cipio arian yng nghystadleuaeth unigol ffyn y gymnasteg rythmig. Ei phumed medal arian yn y Gemau! Dim sioc mai Canada enillodd eto – dim ond cystadleuaeth y rhuban i fynd.

11.02: MEDALAU ARIAN AC EFYDD I GYMRU!

Mae cystadlaethau unigol y gymnasteg rythmig yn digwydd heddiw, ac mae’r Cymry wrthi eto’n casglu medalau. Frankie Jones sydd yn casglu’r un cyntaf, gydag arian yn nghystadleuaeth unigol y cylch, cyn i Frankie Jones gael arian arall a Laura Halford gipio efydd yn y perfformiad pêl.

Tair medal i Gymru eisoes y bore yma felly, a chystadlaethau’r rhuban a’r ffyn i ddod. Tair medal gymnasteg oedd targed Cymru cyn y Gemau, gyda llaw, felly maen nhw wedi dyblu hynny’n barod.

10.42: Mae campau Cymry’r bore yma’n cynnwys trioedd bowlio lawnt y dynion yn herio’r Alban a Caroline Taylor yn chwarae Lucy Beere o Guernsey yn senglau’r merched.

Mae cystadlaethau’r saethu hefyd yn parhau, ac fe fydd tîm tenis bwrdd merched Cymru’n gobeithio cael y gorau o Awstralia.

Mae’r ymladdwyr jiwdo Ruslan Rancev a Mark Shaw hefyd yn cystadlu, tra bod rhagbrofion y nofio’n cynnwys Chloe Tutton, Bethan Sloan, Jack Thomas, Marco Loughran, Alys Thomas, Ieuan Lloyd, Otto Putland a Calum Jarvis.

Hynny’n ddigon dw i’n siŵr – fe ddown ni â’u canlyniadau i chi nes ymlaen y bore yma.

10.40: Ymysg y rhai fydd yn cystadlu i dîm Cymru heddiw mae Marco Loughran, Ieuan Lloyd ac Alys Thomas yn y pwll, Owain Doull ac Elinor Barker yn y seiclo, a Michaela Breeze yn codi pwysau.

Bydd Frankie Jones a Laura Halford hefyd yn mynd am fedalau unigol yng ngwahanol gampau’r gymnasteg rythmig.

Mae’r tîm rygbi saith bob ochr yn dechrau eu cystadleuaeth nhw gyda gemau yn erbyn Malaysia, Papua Guinea Newydd a Samoa, tra bod tîm hoci’r dynion yn herio Awstralia a thîm pêl-rwyd y merched yn chwarae yn erbyn Trinidad a Tobago.

Ac fe fydd llwyth o gampau eraill yn cynnwys y Cymry, o fowlio lawnt a saethu i denis bwrdd a bocsio.

10.30: Bore da, a chroeso eto i flog byw golwg360 yn cadw llygad ar sut mae’r Cymry’n ei wneud yng Ngemau’r Gymanwlad heddiw.

Ar ôl y fedal gyntaf i’r tîm ddydd Iau yn y gymnasteg rythmig fe ddaeth pump arall ddoe, gydag arian ac efydd i Frankie Jones a Laura Halford yn y gymnasteg rythmig unigol, arian i Elena Allen yn y saethu skeet ac efydd i Ieuan Williams a Matthew Ellis yn y para-seiclo tandem.

Siawns am fwy heddiw tybed? Fe gawn ni weld!