Mae’r gwasanaethau brys oedd yn chwilio am fachgen yn ei arddegau a ddiflannodd tra’n nofio mewn afon, wedi dod o hyd i gorff.
Fe gafodd y gwasanaethau eu galw toc cyn 4 o’r gloch brynhawn ddoe, wedi i’r bachgen 14 mlwydd oed ddiflannu o afon Ouse yn Hartford, Swydd Gaergrawnt.
Mae llefarydd ar ran Heddlu Swydd Caergrawnt wedi cadarnhau fod corff wedi’i ganfod tua 2 o’r gloch y bore. Dydyn nhw ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus, ac maen nhw wedi trosglwyddo’r achos i ddwylo’r crwner.
Y gred ydi fod y bachgen yn un o griw Ysgol St Peter’s o Huntingdon a oedd allan yn mwynhau’r haul ar ddiwrnod cynta’ eu gwyliau haf mewn llecyn sy’n ffefryn gan nofwyr.