Mikaeel Kular
Mae mam y bachgen teirblwydd, Mikaeel Kular, wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad o ladd ei mab.

Fe gafodd Rosdeep Adekoya, 34, ei chyhuddo o ladd ei phlentyn, ond fe blediodd yn euog yn Llys y Goron Caeredin.

Fe fu chwilio mawr am y bachgen bach wedi iddo gael ei riportio ar goll o’i gartre’ yn y ddinas ym mis Ionawr y flwyddyn hon.

Ond fe ddaeth ei gorff i’r fei mewn coedwig yn Kirkcaldy, Fife, tua 25 milltir o’i gartre.