Blog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad, yn dod a’r diweddaraf ar y Cymry sy’n cystadlu heddiw.
*Medalau i Gymru yn y seiclo tandem a saethu skeet
*Rhys Williams wedi methu prawf cyffuriau
*Arian ac efydd i ferched gymnasteg rythmig Cymru
*Efydd i Jervis yn y pwll hefyd
21.51: Diwrnod arall o gystadlu ar ben felly, ond dim mwy o fedalau i ychwanegu at gyfanswm Cymru yn y nofio heno yn anffodus.
Fe orffennodd Jemma Lowe yn chweched yn ffeinal ei ras 100m dull pili pala, ac fe gafodd tîm ras gyfnewid 4x100m dull rhydd Cymru chweched yn eu ffeinal nhw hefyd.
Y newyddion da o’r pwll i Gymru yw bod Rob Holderness wedi cyrraedd ffeinal 100m dull broga y dynion fory ar ôl dod yn bedwerydd yn ei ras gynderfynol.
Mae Georgia Davies hefyd drwyddo i ffeinal 100m dull cefn y merched gyda’r amser cyflymaf ond un, ond yn anffodus i Rachel Williams a Danielle Stirrat doedden nhw ddim digon cyflym yn yr un gystadleuaeth.
Roedd yr un peth yn wir am Hannah McCarthy, a ddaeth yn wythfed yn ei ras gynderfynol 50m dull rhydd hi.
Yn y bowlio lawnt fe enillodd Caroline Taylor ei gêm senglau yn erbyn Kelsey Cottrell o Awstralia o 21-11, ac fe enillodd parau’r dynion 26-14 yn erbyn India.
Ac yn y sboncen fe enillodd Scott Fitzgerald 3-0 (11-2, 11-5, 14-12) yn erbyn Dishan Guawardana o Sri Lanka.
Gareth Evans hefyd yn gorffen yn bumed yng nghystadleuaeth codi pwysau’r 69kg.
20.00: Yn anffodus dim cystal lwc yn y boscio. A dweud y gwir, sioc enfawr yn y bocsio wrth i Andrew Selby golli yn rownd gyntaf categori’r 52kg i Reece McFadden o’r Alban.
Selby oedd un o obeithion pennaf Cymru am fedal, ac am reswm da. Mae’n bencampwr amatur Ewropeaidd ddwywaith (2011 a 2013) ac hefyd wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaeth y Byd 2011.
Siom fawr i dîm Cymru felly, yn ogystal a Selby ei hun.
O leiaf mae tîm badminton Cymru wedi gwneud yn well, gan guro Ynysoedd y Falklands 2-0.
19.55: MEDAL EFYDD I GYMRU!
Cymru wedi cipio’u pumed medal o’r dydd ar ôl i Calum Jarvis orffen yn drydydd yn ffeinal ras 200m dull rhydd y dynion yn y pwll, 0.21 eiliad yn unig o flaen David Mckeon o Awstralia.
18.12: Dyna ni am y prynhawn yma felly, ond mae’r cystadlu’n parhau heno gydag Andrew Selby’n boscio, rhagor o fowlio lawnt, tenis bwrdd a sboncen, ac yna ffeinalau nofio heno gyda Calum Jarvis, Jemma Lowe a thîm 4x100m dull rhydd y dynion yn rasio.
Felly cofiwch daro nôl nes ymlaen i weld sut hwyl maen nhw’n ei gael – fe ddown ni a’r canlyniadau i chi nes ymlaen.
17.53: Owain Doull newydd fethu allan ar fedal efydd i Marc Ryan o Seland Newydd ar y trac seiclo’n anffodus. Cymru’n aros ar bedair medal am y dydd felly.
17.38: Cymru fyny i bump medal nawr, gyda thair arian a dwy efydd, sy’n eu gosod nhw’n wythfed yn y tabl yn gyfan gwbl. Siawns am fwy cyn diwedd y dydd? Neu ydan ni’n bod yn farus?
17.28: MEDALAU ARIAN AC EFYDD I GYMRU!
A dyna ni, Frankie Jones yn cipio’r fedal arian a Laura Halford yn gorffen gyda’r fedal efydd! Roedd y ddwy ohonyn nhw ar y blaen tan i’r cystadleuydd olaf o Ganada gipio’r aur.
Y Canadiaid gipiodd yr aur yng nghystadleuaeth y timau neithiwr felly efallai nad yw’r canlyniad terfynol yn gymaint o syndod â hynny, ond gwych fod y ddwy Gymraes wedi cael medalau unigol i ychwanegu at yr arian a enillon nhw ddoe.
16.54: Ac fe allai mwy o fedalau ddod o fewn yr awr. Frankie Jones yn arwain cystadleuaeth y gymansteg rythmig a Laura Halford yn ail ar ôl eu perfformiadau olaf nhw, felly aros i weld sut wnaiff y lleill nawr.
Ac Owain Doull i ddod yn y seiclo hefyd wrth gwrs.
16.51: MEDAL ARIAN I GYMRU!
Medal arian i Gymru nawr, wrth i Elena Allen gael ail yn ffeinal saethu skeet y merched! Trydydd medal Cymru o’r Gemau – mae hi wedi bod yn ugain munud bach prysur!
16.45: MEDAL EFYDD I GYMRU!
Medal efydd i Gymru yn nhreial amser B tandem 1000m y para-seiclo, Ieuan Williams a Matthew Ellis sy’n cipio ail fedal y Gemau i’r tîm!
Yr Albanwyr yn cipio’r aur mewn amser o 1:02.096, ychydig o flaen Awstralia, gyda beic tandem Cymru rhyw ddwy eiliad y tu ôl i’r amser hwnnw ond dros eiliad o flaen y tîm ddaeth yn bedwerydd.
16.11: Rhai o gampau’r Cymry rhwng nawr a chwech o’r gloch yn cynnwys trioedd bowlio lawnt y dynion yn erbyn India, tîm tenis bwrdd y merched yn erbyn Sri Lanka ac Elena Allen yn rowndiau terfynol saethu’r skeet, a mwy o sboncen.
Ac mae yna fedalau posib ar y gweill ar y trac seiclo hefyd. Yn gyntaf mae Ieuan Williams a Matthew Ellis yn nhreialon cyflym y ras dandem 1000m, ac yna fe fydd Owain Doull yn mynd am yr efydd yn ei ras 4000m unigol ef.
15.57: Laura Halford a Frankie Jones nawr wedi cyfnewid lle ar y sgorfwrdd ar ôl y trydydd perfformiad o bedwar yn y gymnasteg rythmig.
Jones yn symud i’r ail safle a Halford yn disgyn i drydydd, ond mwy o ferched i ddod.
15.53: Araf deg mae’r canlyniadau’n dod i Gymru y prynhawn yma, ond un arall yw bod Scott Fitzgerald wedi trechu Ridvan Prosper o’r Seychelles o 3-0 (11-2, 11-3, 11-2) yn senglau sboncen y dynion.
Y gêm hoci rhwng Cymru ac Awstralia newydd orffen hefyd, ac yn anffodus mae’r merched wedi cael crasfa. 5-0 ar yr egwyl, a 9-0 erbyn y chwib olaf. Awtsh.
15.14: Yn gynharach ar y trac seiclo fe ddaeth Owain Doull yn drydydd yn rhagbrawf ras y 4000m IP, ac fe fydd e felly’n mynd benben â Marc Ryan o Seland Newydd am y fedal efydd y prynhawn yma gyda’r ras honno am 17.38yp.
15.11: Mae cystadleuaeth unigol y gymnasteg rythmig yn parhau y prynhawn yma ac ar hyn o bryd mae’r Cymry’n gwneud yn dda iawn, gyda Laura Halford yn ail a Frankie Jones yn drydydd.
Rhagor am achos Rhys Williams hefyd, sef bod Athletau Cymru nawr wedi dweud y byddwn nhw’n cynnal ymchwiliad mewnol ar ôl i ddau o’u hathletwyr fethu profion cyffuriau o fewn wythnos.
15.05: Ychydig yn ddistawach ar ddechrau’r prynhawn, ond dyma mwy o’r canlyniadau sydd wedi’n cyrraedd ni erbyn hyn:
Dim medal i Mike Bamsey yn ffeinal saethu reiffl awyr 10m y dynion yn anffodus, wrth iddo orffen yn seithfed.
Yn rhagbrawf saethu skeet y dynion fe orffennodd Malcolm Allen (na, dim hwnnw!) yn bumed, a Rhys Price yn ddegfed, ac yng nghystadleuaeth y merched roedd Elena Allen yn drydydd.
Mae Cymru wedi curo Lloegr yn y bowlio lawnt ar ol i’r parau cymysg B2/B3 ennill o 12-7.
Yn y tenis bwrdd mae tîm y dynion wedi trechu Kenya’n gyfforddus o 3-0.
13.23: Llongyfarchiadau i Coral Kennerley, sydd wedi gorffen yn chweched yn ffeinal saethu pistol aer 10m y merched – dim medal yn anffodus ond perfformiad gwych gan y ferch 20 oed o Aberystwyth.
13.16: Canlyniad yn y pêl-rwyd, ond dyw e ddim yn un da i Gymru’n anffodus – fe gawson nhw gweir o 65-25 yn erbyn Lloegr gan golli pob chwarter o o leiaf wyth pwynt.
Canlyniad gwell i Caroline Taylor yn senglau bowlio lawnt y merched, fodd bynnag, wrth iddi hi drechu Bernice McGreal 0 Ynys Manaw 21-10.
12.53: Mwy o jiwdo, sboncen, seiclo a saethu’r prynhawn yma i’r Cymry – ac fe fydd merched y gymnasteg rythmig yn gorfod rhoi eu medalau arian i’r neilltu am ychydig bach hefyd wrth iddyn nhw gystadlu yn y ffeinal unigol mewn ychydig dros hanner awr.
12.45: Gareth Evans yn gwneud yn dda yng nghystadleuaeth codi pwysau 62kg y dynion, gyda llaw – mae e wedi codi 150kg yn y ‘clean and jerk’ a thorri record Brydeinig! Mae’r geiriadur yn dweud wrtha i mai ‘plwc dwy law’ ydi enw’r gystadleuaeth yma – peidiwch â dweud nad ydych chi’n dysgu pethau newydd yn y blog yma.
12.40: Canlyniad seiclo i chi nawr – Elinor Barker wedi gorffen yn seithfed yn rhagbrofion ras unigol y 3000m i ferched, gydag Amy Roberts yn 13eg a Ciara Horne yn 15fed.
Tîm Cymru wedi gorffen yn bedwerydd yn eu rhagbrawf ras gyfnewid 4x100m dull rhydd y dynion, ac mae’n ymddangos fod hynny’n ddigon da i fynd drwyddo.
12.08: Yn y saethu reiffl aer 10m i ddynion mae Mike Bamsey drwyddo yn y rhagbrofion ar ôl gorffen yn chweched. Fe fydd ffeinal hwnnw’n dechrau am 14.30yp.
12.04: Yn anffodus mae Ieuan Lloyd newydd golli allan ar le yn ffeinal ras y 200m dull rhydd ar ôl dod yn ail mewn ‘swim-off’, ar ôl cael cydradd wythfed yn y rhagbrofion cynharach.
Y newyddion da yw bod Georgia Davies, Rachel Williams, Danielle Stirrat a Rob Holderness wedi gwneud digon i gyrraedd rownd cynderfynol eu rasys nhw.
Tom Haffield yn bedwerydd yn rhagras 400m y medli unigol.
11.44: Rhys Williams wedi ymateb i’r gwaharddiad gan ddweud ei fod o “wedi’i synnu” gyda’r canlyniad a mynnu nad yw wedi cymryd unrhyw gyffur gwaharddedig iddo wybod amdano. Ergyd mawr i dîm athlethau Cymru yn y Gemau, gan mai ef oedd un o’r capteiniaid hefyd.
11.38: Y stori lawn ar Rhys Williams, fydd bellach ddim yn cystadlu dros Gymru yng Nglasgow eleni.
Rhagor o ganlyniadau nofio i chi – fe orffennodd Mari Davies yn seithfed a Hannah McCarthy yn chweched yn eu rhagbrofion 50m dull rhydd nhw felly fyddwn nhw ddim drwyddo.
Rob Holderness yn drydydd yn ei ragras 100m y dull cefn felly caiff aros i weld sut mae ei amser yn cymharu. Georgia Davies yn ail a Rachel Williams yn bedwerydd yn eu rhagbrawf 100m dull cefn nhw, felly edrych yn dda i Davies, ond dim ond pumed gafodd Danielle Stirrat yn ei rhagras cyfatebol hi.
11.17: Tîm Cymru bellach wedi cadarnhau’r newyddion am Rhys Williams. Mae’n ymddangos iddo fethu prawf cyffuriau ar ôl cystadlu mewn cystadleuaeth Grand Prix yng Nglasgow bythefnos yn ôl.
Ni fydd nawr yn cystadlu yn ras y 400m dros y clwydi i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad – ac ef yw’r ail athletwr o Gymru o fewn wythnos i fethu prawf cyffuriau.
11.04: Newyddion mawr a newyddion drwg unwaith eto i dîm Gemau’r Gymanwlad Cymru – mae adroddiadau fod yr athletwr Rhys Williams nawr wedi methu prawf cyffuriau. Mwy i ddilyn.
10.56: Calum Jarvis yn gyntaf a Ieuan Lloyd yn drydydd yn eu rhagbrofion 200m dull rhydd nhw gydag amseroedd da, ond Otto Putland yn anffodus yn olaf ac felly allan.
10.54: Fe fydd rhywfaint o seiclo, saethu a bowlio lawnt y bore yma hefyd, yn ogystal â gêm fawr yn y pêl-rwyd rhwng Cymru a Lloegr am 11.30yb.
Am 12.30yp fe fydd Coral Kennerley yn ffeinal y saethu pistol aer 10m. Seithfed oedd hi yn y rhagbrawf gyda sgôr o 375, a hynny dim ond tri y tu ôl i’r ferch a orffennodd yn drydydd – felly pob lwc iddi nes ymlaen!
10.50: Lot o nofio i ddod y bore yma gyda llaw felly os ydych chi eisiau cefnogi’r Cymry fe fyddai’r pwll yn le da i fod. Calum Jarvis, Ieuan Lloyd a Otto Putland fydd yn rasio gyntaf i Gymru yn rhagbrofion 200m dull rhydd y dynion.
Yna fe fydd Mari Davies a Hannah McCarthy yn rhagbrofion 50m y dull rhydd i ferched, cyn i Rob Holderness nofio 100m dull cefn y dynion, ac yna Danielle Stirrat, Rachel Williams a Georgia Davies i gyd yn rasio yr un pellter yng nghystadleuaeth y merched.
Cyn cinio fe fydd Tom Haffield a Xavier Mohammed hefyd yn nofio medli unigol y 400m, cyn i Jarvis, Lloyd, Putland a Mohammed gystadlu yn ras y 4×100, dull rhydd.
10.43: Mae canlyniadau rhai o gystadlaethau’r bore yma eisoes wedi dechrau’n cyrraedd.
Yn y gystadleuaeth gyntaf heddiw mae Coral Kennerley wedi mynd drwyddo yn rownd ragbrofol saethu pistol aer 10m y merched, ond yn anffodus doedd sgôr Shawnee Bourner yn yr un gystadleuaeth ddim cystal.
Yn y badminton mae tîm cymysg Cymru wedi colli 3-0 (2-0, 2-0, 2-0) i Ganada, ond gwell lwc i dîm merched y tenis bwrdd wrth iddyn nhw drechu Vanatu’n gyfforddus.
Colli wnaeth tîm hoci’r dynion y bore yma hefyd, o 3-1 i India, a hynny er gwaethaf sgôr cyfartal o 1-1 ar yr egwyl.
Yn y jiwdo i ddynion mae Curtis Dodge wedi colli i Adrian Leat o Seland Newydd a Connor Ireland wedi colli i Danny Williams o Loegr yng ngategori 73kg, ac yn yr 81kg mae Craig Ewers hefyd wedi colli i Jonah Burt o Ganada.
Tîm jiwdo Cymru’n parhau i’w chael hi’n annodd felly, ar ôl i ymladdwyr ddoe golli hefyd.
10.32: Wrth gwrs, fe fydd rhagor o Gymry’n gobeithio cystadlu am fedalau eto heddiw – fe fydd 21 cystadleuaeth sydd yn cynnwys Cymry yn dosbarthu medalau yn ystod y dydd.
Nid fod Cymru’n disgwyl medalau ym mhob un o’r cystadlaethau hynny o bell ffordd, ond dyma i chi grynodeb o rai o’r prif sêr a thimau fydd yn cystadlu heddiw.
10.28: Bore da, a chroeso eto i flog byw golwg360 yn cadw llygad ar sut mae’r Cymry’n ei wneud yng Ngemau’r Gymanwlad heddiw.
Mae Cymru eisoes wedi ennill ei medal gyntaf yng Nglasgow ar ôl i dîm gymnasteg rythmig y merched – Frankie Jones, Laura Halford a Nikara Jenkins – gipio’r fedal arian yn hwyr neithiwr.