Yn dilyn ennill medal gynta’ Cymru yn Gemau – medal arian i’r tîm gymnasteg rythmig – ddoe, bydd Frankie Jones, Laura Halford a Nikara Jones yn dychwelyd i’r SSE Hydro brynhawn heddiw i gystadlu mewn cystadlaethau gymnasteg rythmig unigol.

Wrth i’r bocsio gychwyn, bydd y pencampwr Ewropeaidd dwbl, Andrew Selby, yn cystadlu am y tro cyntaf tra bydd rowndiau cyntaf jiwdo’r dynion hefyd yn cael eu cynnal yn yr un lleoliad.

Bydd Elena Allen yn cystadlu am fedal yn y saethu wrth i gystadleuaeth skeet y merched gymryd lle yn Dundee.

Bydd Gareth Evans hefyd yn dechrau ei Gemau wrth godi pwysau yn Awditoriwm y Clyde. Bydd yn cystadlu yng nghategori 62kg dros Gymru.

Bydd Caroline Taylor yn wynebu Bernice McGreal o Ynys Manaw yn y bowlio lawnt sengl yng Nghanolfan Kelvingrove ganol y bore, gyda pharau cymysg para chwaraeon B2/B3 yn wynebu Lloegr.

Ar ôl colli yn erbyn Awstralia ddoe, bydd chwaraewyr badminton Cymru’n wynebu Canada yn eu hail ail gêm grŵp i’r tîm cymysg.

Yn y pwll nofio, bydd Ieuan Lloyd, Marco Loughran a Jemma Lowe wrthi ac yn Velodrome Syr Chris Hoy, bydd Matt Ellis ac Ieuan Williams yn cystadlu yn nhreial amser tandem dynion B y para chwaraeon.

Hefyd yn y velodrome, bydd cystadlaethau pursuit unigol y merched a dynion yn gweld Owain Doull, Amy Roberts, Elinor Barker a Ciara Horne mynd ar y trac dros Gymru.

Bydd tîm hoci dynion Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn India, ac yn dilyn cael eu trechu gan Loegr ddoe, bydd tîm hoci merched Cymru yn wynebu Awstralia’r prynhawn ma.

Yn y tennis bwrdd, bydd tîm grŵp merched Cymru yn chwarae yn erbyn Vanuatu a bydd y dynion yn wynebu Kenya.

Ac ar ôl colli i’r Pencampwyr Byd, Awstralia, ddoe bydd tîm pêl rwyd Cymru’n wynebu Lloegr.