Mae cyn newyddiadurwr y News of the World wedi osgoi dedfryd o garchar ar ôl iddo roi tystiolaeth yn erbyn cyn olygydd y papur Andy Coulson yn yr achos hacio ffonau.
Roedd Dan Evans wedi cyfaddef y llynedd ei fod wedi clustfeinio ar 200 o negeseuon ffôn pobl amlwg ym myd ffilm, chwaraeon a gwleidyddiaeth, a mwy na 1,000 o negeseuon ffôn tra roedd yn gweithio i’r Sunday Mirror ac ar ôl iddo gael ei recriwtio i’r NotW.
Roedd Dan Evans, 38 oed, yn un o brif dystion ar ran yr erlyniad yn yr achos hacio ffonau yn yr Old Bailey. Yn gynharach y mis hwn cafwyd Coulson yn euog o hacio ffonau a’i garcharu am 18 mis.
Roedd Evans wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o hacio ffonau – un pan oedd yn gweithio i’r Sunday Mirror rhwng 2003 a 2005 ac un ar ôl iddo gael ei recriwtio gan y NotW rhwng 2004 a 2010.
Roedd hefyd wedi cyfaddef camymddwyn mewn swydd gyhoeddus a chynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd ddedfryd o 10 mis wedi ei ohirio am 12 mis a’i orchymyn i wneud 200 awr o waith cymunedol.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Saunders ei fod wedi cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Evans wedi pledio’n euog a’i fod wedi cytuno i roi tystiolaeth yn yr achos hacio ffonau ac o bosib yn y dyfodol.