Roedd nifer y bobl fu farw ar hyd arfordir y DU yn 2013 ar ei uchaf ers pedair blynedd, yn ôl yr RNLI.

Roedd mwy wedi marw ar yr arfordir na fu farw mewn damweiniau beicio a heddiw, mae’r elusen yn lansio ymgyrch sy’n galw ar bobl i Barchu’r Dŵr.

Mae ffigurau’r RNLI yn dangos bod 167 o bobl wedi  marw mewn damweiniau oedd yn gysylltiedig â’r môr y llynedd, ac roedd 368 arall wedi cael eu hachub gan griwiau achub ar ôl mynd i drafferthion.

Mae’r ymgyrch newydd yn cael ei lansio wrth i’r tymheredd godi ac wrth i bobl heidio i’r traethau yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae sioc dŵr oer, cerrynt peryglus a blinder yn ffactorau cyffredin sy’n gallu arwain at drafferthion, dywedodd yr RNLI, tra bod alcohol wedi chwarae rhan mewn 28 o farwolaethau yn y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd bron i un rhan o bump o’r rhai a fu farw yn nofio neu’n cerdded ar hyd yr arfordir.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae dynes a gollodd ei hewythr yn y môr yn cefnogi’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o “beryglon cudd” y dŵr.

Meddai Elizabeth Toogood: “Fe wnaeth fy ewythr, Lee, foddi yn y môr ger traeth Weston-super-Mare pan oedd o’n 29 mlwydd oed.

“Roedd o wedi cael ei fagu yn Weston, wedi nofio llawer yno ac yn gyfarwydd iawn â’r ardal. Roedd Lee yn nofiwr cryf a hyderus ond doedd hyn ddim yn ddigon i achub ei fywyd.

“Digwyddodd y ddamwain ychydig flynyddoedd yn ôl ond mae effaith y trychineb yn dal i effeithio arnom ni fel teulu.”