Darn o awyren Malaysia Airlines
Mae disgwyl i ymchwilwyr ddechrau archwilio ail flwch du o drychineb awyren Malaysia Airlines heddiw.
Bu timau arbenigol yn Hampshire eisoes yn archwilio un o’r blychau du o’r awyren ddoe.
Yn ôl Bwrdd Diogelwch yr Iseldiroedd (DSB) y gobaith yw y bydd y blwch du yn cynnwys “gwybodaeth berthnasol.”
Fe allai’r wybodaeth o’r blwch du cyntaf (CVR), sydd wedi cael ei drosglwyddo i’r awdurdodau yn yr Iseldiroedd, roi gwybod os oedd y peilotiaid yn ymwybodol bod taflegryn wedi cael ei danio at yr awyren.
Mae ’na bosibilrwydd y gallai eiliadau olaf y daith ddatgelu gwybodaeth gan y peilotiaid ynglŷn â’r hyn oedd wedi digwydd i’r awyren.
Yn y cyfamser fe fydd llysgenhadon yr Undeb Ewropeaidd yn cwrdd yn ddiweddarach heddiw i drafod pa unigolion sydd â chysylltiad â’r Arlywydd Vladimir Putin a fydd yn wynebu sancsiynau os nad yw Moscow yn gweithredu yn yr Wcráin.
Yn Eindhoven yn yr Iseldiroedd ddoe fe gyrhaeddodd 40 arch yn cludo cyrff rhai o’r 298 o bobl fu farw pan syrthiodd awyren MH17 i’r ddaear yn nwyrain yr Wcrain wythnos yn ôl.
Fe allai’r broses o geisio eu hadnabod gymryd wythnosau.