Ben Davies yn gadael Abertawe ar ôl 12 mlynedd
Mae Tottenham Hotspur wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo cefnwr chwith Cymru Ben Davies o Abertawe, ar ôl wythnosau o drafod.

Bydd Gylfi Sigurdsson yn symud o Spurs i Abertawe fel rhan o’r cytundeb rhwng y ddau glwb, gydag adroddiadau’n awgrymu bod y ddau wedi cyfnewid lle am bris tebyg o tua £10m yr un.

Mae Abertawe a Spurs hefyd wedi dod i gytundeb am y golwr Michel Vorm, gydag adroddiadau’n awgrymu fod y clwb o Lundain wedi talu hyd at £5m amdano.

Roedd disgwyl i Davies gwblhau’r trosglwyddiad yr wythnos hon ar ôl iddo adael taith haf Abertawe i’r UDA er mwyn trafod gyda Spurs.

Fe ryddhaodd Spurs fideo ddoe oedd i’w weld yn dangos Davies yn ymarfer gyda’i glwb newydd, ond fe gafodd honno ei dynnu oddi ar y we yn fuan wedyn.

Mae Sigurdsson hefyd wedi bod yn trafod ei gytundeb personol yntau ag Abertawe’r wythnos hon, ac fe fydd yn dychwelyd i’r clwb ble treuliodd chwe mis ar fenthyg yn 2012.

Mae’n ymddangos fod yr oedi cyn cyhoeddi’r ddêl oherwydd bod y ddau glwb yn disgwyl i Sigurdsson ac Abertawe gwblhau eu trafodaethau nhw.

Mae Davies, sy’n 21 oed, yn ymuno â llinach nodweddiadol o gefnwyr ifanc Cymreig sydd wedi symud i Spurs, gyda Gareth Bale yn arwyddo i’r clwb yn 2007 a Chris Gunter yn ymuno ag ef flwyddyn yn ddiweddarach.

Mae trosglwyddiad Davies yn gadael Abertawe gyda’r Cymro Neil Taylor fel y dewis cyntaf yn safle’r cefnwr chwith.

Mae Abertawe hefyd eisoes wedi arwyddo’r golwr Lukas Fabianski am ddim o Arsenal, ac felly roedden nhw’n medru fforddio gadael i Vorm fynd.