Stadiwm y Mestalla yn Valencia
Mae’n gyfnod yr haf, ac felly mae clybiau mawr Ewrop wrthi ym mhedwar ban byd yn paratoi at y tymor newydd wrth chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn timau, wel, llai nodedig.
Ond er hynny, mae’n annhebygol y cewch chi fwlch mor fawr rhwng Valencia a’r tîm y byddan nhw’n herio ddydd Mawrth nesaf – neb llai na chlwb pêl-droed Tref Pontypridd!
Yn syfrdanol, mae’r tîm a orffennodd yn 15fed yn Adran Tri’r Welsh League y tymor diwethaf – tair cynghrair yn is nag Uwch Gynghrair Cymru – yn teithio draw i herio un o gewri Ewrop ar 29 Gorffennaf mewn gêm hanesyddol.
Llwyddodd Pontypridd i drefnu’r gêm ar ôl i’w rheolwr nhw Dominic Broad a’i frawd Damien wneud profiad gwaith yn Sbaen a chadw mewn cyswllt â swyddogion Valencia.
Methu allan ar y Mestalla
Fe fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd mewn stadiwm grand yn Oliva Nova, tra bod gwaith adnewyddu’n parhau ar stadiwm Mestalla’r Sbaenwyr sydd yn dal 53,000.
Fe gynigiodd Valencia aildrefnu’r gêm ar gyfer dyddiad pan allen nhw chwarae yn y Mestalla hyd yn oed – ond erbyn hynny roedd Pontypridd wedi bwcio i deithio!
Ail dîm Valencia – a chwaraeodd yn erbyn Abertawe yng Nghynghrair Ewropa’r tymor diwethaf – fydd mwy na thebyg yn chwarae yn erbyn Pontypridd.
Ond serch hynny, mae eu rheolwr yn edrych ymlaen at daith fythgofiadwy.
“Mae’r freuddwyd yn dod yn wir i ni,” meddai Dominic Broad wrth wefan Show Racism The Red Card. “Mae pawb eisiau chwarae’r timau gorau yn y lleoliadau gorau.
“Rydym ni wedi bod yn ymarfer yn galed a’r gorau y gallwn ni – gobeithio y gallwn ni roi gêm i’n gwrthwynebwyr.
“Fe fyddwn ni hefyd yn dangos cefnogaeth i Show Racism The Red Card cyn y gêm. Rydym eisiau dangos ein cefnogaeth i wrth-hiliaeth ac mae’r clwb eisiau parhau â’r gefnogaeth yna dros y tymor.”
Cyn-sêr Lerpwl yn ymuno
Yn ogystal â thîm amatur Pontypridd, sydd yn cynnwys athrawon, heddwas, contractwr adeiladu a pherchennog cwmni marchnata, fe fydd ambell seren bêl-droed yn ymuno â nhw ar y trip.
Fe fydd y cyflwynydd teledu Colin Murray a chyn-chwaraewyr Lerpwl Neil Ruddock a Danny Murphy ar y trip, gyda Murphy hefyd wedi’i enwi yn y garfan ar gyfer y gêm.
Yn ôl Dominic Broad mae aelodaeth ieuenctid y clwb, mewn tref sydd yn dwlu ar ei rygbi, wedi cynyddu’n sylweddol ers cyhoeddi’r gêm.
Ac mae’n gobeithio nad dyma’r tro olaf y bydd Pontypridd yn herio cewri’r byd pêl-droed.
“Nid Valencia yw’r unig glwb ble mae gennym ni gysylltiadau,” meddai. “Falle y gallwn ni berswadio clwb mawr arall i chwarae gêm gyfeillgar yn ein herbyn ni’r flwyddyn nesaf!”