Mae Caerdydd wedi derbyn cynigion gan Crystal Palace a Chaerlŷr am eu hymosodwr Frazier Campbell.

Mae gan yr ymosodwr gymal yn ei gytundeb sydd yn golygu y gall adael yr Adar Gleision ar ôl iddyn nhw ddisgyn o’r Uwch Gynghrair os yw clwb yn cael cynnig swm o gwmpas £900,000.

Mae’n ymddangos fod Palace a Chaerlŷr wedi gwneud cynigion digonol, ac felly mae bron yn sicr y bydd y Sais nawr yn symud nôl i glwb yn yr Uwch Gynghrair cyn diwedd yr haf.

Roedd rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer eisoes wedi dweud ei fod yn cynllunio am y tymor nesaf heb Campbell a Steven Caulker, sydd bellach wedi ymuno â QPR.

Fe sgoriodd Campbell, sy’n 26 oed, naw o goliau i Gaerdydd y tymor diwethaf ond doedd hynny ddim yn ddigon i atal y clwb rhag disgyn i’r Bencampwriaeth.

Mae Caerdydd eisoes wedi arwyddo’r ymosodwyr Javi Guerra, Federico Macheda ac Adam Le Fondre ar gyfer y tymor newydd, ac felly roedd disgwyl y byddai Campbell yn gadael.