Fe dreuliodd Steven Caulker dymor yng Nghaerdydd (llun: David Davies/PA)
Mae Steven Caulker wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at gael chwarae gyda Rio Ferdinand ar ôl i QPR gadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo’r amddiffynnwr o Gaerdydd.
Dyw’r ddau glwb heb ddatgelu beth oedd y ffi a dalwyd am Caulker, ond y gred oedd bod ganddo gymal yn ei gytundeb yn caniatáu iddo adael Caerdydd am tua £8m petai nhw’n disgyn o’r Uwch Gynghrair.
Fe arwyddodd Caulker i Gaerdydd am £8m o Spurs yr haf diwethaf, ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg yn Abertawe nôl yn 2012.
Mae nawr yn gobeithio cadw QPR yn yr Uwch Gynghrair yn eu tymor cyntaf yn ôl, ochr yn ochr â cyn-seren Man United Rio Ferdinand sydd hefyd wedi arwyddo i’r clwb o Lundain.
“Roedd hi’n bwysig i mi fod nôl yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac mae [rheolwr QPR] Harry Redknapp wedi rhoi’r cyfle i mi ymuno â’r clwb gwych yma,” meddai’r gŵr 22 oed.
“Roedd chwarae gyda Rio hefyd yn atyniad mawr. Mae wedi bod yn rôl fodel i mi ers blynyddoedd, yn ogystal â Ledley King.”
Roedd rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer eisoes wedi dweud ei fod yn cynllunio am y tymor newydd heb Caulker a’r ymosodwr Frazier Campbell, sydd hefyd yn debygol o adael y clwb yr haf hwn.
Ar hyn o bryd mae gan Solskjaer, Mark Hudson, Ben Turner, Juan Cala a Matthew Connolly yn opsiynau fel amddiffynwyr canol yn ei garfan ar gyfer y tymor nesaf.