Fe sicrhaodd Swydd Derby fuddugoliaeth o chwe wiced ar y trydydd diwrnod o chwarae yn erbyn Morgannwg yn y County Ground ar ôl iddyn nhw gyrraedd y targed o 73 a osodwyd.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 175 rhediad yn eu hail fatiad, gyda Will Owen yn brif sgoriwr gyda 28 rhediad.

Ond roedd y targed o 73 yn un digon hawdd i Swydd Derby gyrraedd, ac fe wnaethon nhw hynny gan golli dim ond pedair wiced gyda Ben Slater (20) a Wayne Madsen (19) yn arwain y ffordd.

Roedd hi wedi bod yn dri diwrnod ffrwythlon i’r bowlwyr wrth iddyn nhw fanteisio ar y tywydd clos a’r llain ffafriol.

Fe enillodd Swydd Derby’r dafl a phenderfynu bowlio gyntaf, gan gyfyngu Morgannwg i 138 yn unig yn eu batiad cyntaf.

Murray Goodwin (44) a Mark Wallace (30*) oedd prif sgorwyr Morgannwg, ond roedd bowlwyr Swydd Derby’n manteisio’n llawn ar eu cyfle i gadw’r sgôr i lawr, gyda Chesney Hughes (4-46) a Tony Palladino (3-14) yn serennu.

Fe fanteisiodd batwyr Swydd Derby ar y sgôr isel hwnnw hefyd, gan sgorio 241 o rediadau yn eu batiad cyntaf i roi eu hunain yn gyfforddus ar y blaen a Wes Durston yn cyrraedd hanner cant.

Fe wnaeth Morgannwg ychydig yn well yn eu hail fatiad gan gyrraedd 175 o rediadau, ond diolch i fowlio gwych Mark Footitt a gymrodd chwe wiced am ddim ond 48 rhediad ni lwyddon nhw i bara mor hir ag yr oedden nhw wedi’i obeithio.

Roedd hynny’n gadael Swydd Derby i sicrhau’r fuddugoliaeth, ac yn golygu bod Morgannwg nawr wedi colli tair gêm yn olynol yn Adran Dau Pencampwriaeth y Siroedd.