Brian Davies
Mae tîm Cymru’n gobeithio gallu dibynnu ar gefnogaeth gref gan y dorf yng Nglasgow pan fydd Gemau’r Gymanwlad yn dechrau ddydd Iau, yn ôl pennaeth y tîm.

Mae’r athletwyr eisoes wedi cyrraedd y pentref wrth iddyn nhw wneud eu paratoadau olaf ar gyfer y cystadlu, ac mae gan Gymru dîm o dros 230 o gystadleuwyr eleni.

Ac yn ôl chef de mission y tîm, Brian Davies, y gobaith yw y bydd digon o gefnogwyr yn medru teithio  o Gymru i ychwanegu eu lleisiau at y dorf.

“Dyle fe gael effaith bositif o ran y ffaith y bydd nifer y bobl sy’n gwylio’r cystadlu yn eithaf mawr,” meddai Brian Davies wrth golwg360.

“A dyle ‘na fod rhywfaint o ddilynwyr o Gymru lan yma achos dyw e ddim yn bell, felly mae teuluoedd a ffrindiau’n gallu dod lan a dyle hynny fod yn bositif iawn.

“Fe geith e ryw fath o effaith [ar yr athletwyr], ond fi ddim yn siŵr a wnaiff e shwt gymaint o effaith fel bod o’n cael effaith mawr ar eu perfformiad nhw.”

Tîm mawr a thîm balch

Mae’r tîm eisoes wedi gorfod delio â rhai o’u sêr mawr yn tynnu allan o’r tîm gan gynnwys y seiclwraig Becky James a’r pencampwyr triathlon Non Stanford a Helen Jenkins.

Mae hynny – yn ogystal â gwaharddiad y rhedwr 800m Gareth Warburton am drosedd gyffuriau, a gwrthod rhoi trwydded i’r bocsiwr Fred Evans – wedi bod yn ergyd i obeithion Chwaraeon Cymru o gyrraedd eu targed o 27 medal.

Ac mae Brian Davies yn cyfaddef fod y tîm bellach yn wynebu her enfawr os ydyn nhw am geisio cyrraedd y targed hwnnw.

“Mae’n rhaid dweud roedd e’n mynd i fod yn eithaf anodd yn y lle cyntaf, roedd e’n sialens ond roedd pawb lan am y sialens felly roedd e’n eithaf iach,” cyfaddefodd pennaeth tîm Cymru.

“Os chi’n colli tair pencampwraig byd yna mwy na thebyg mae tair medal wedi mynd.

“Ond mae tîm mawr a thîm balch gyda ni ac mae pawb yn mynd i ymdrechu’r gorau y gallan nhw a gobeithio ennill medalau.

“Wna’i ddim dweud fod e’n amhosib ond mae’n bendant wedi gwneud e tipyn bach mwy anodd i gyrraedd [y targed medalau]. Ond fe wnawn ni wneud ein gore glas.”

Ond yn ôl prif weithredwr Sport Wales Sarah Powell, mae’r targed a osodwyd cyn y Gemau dal yn un cyraeddadwy.

“Roedd rhaid i ni ddisgwyl y byddai rhai anafiadau,” meddai Sarah Powell. “Allwn ni ddim rhagweld y pethau yma ac rydyn ni’n gwybod fod gennym ni dîm cryf â dyfnder iddi.

“Mae Gemau’r Gymanwlad yn amgylchedd anodd, cryf a chystadleuol … ond rydym ni’n credu y gallwn ni dal gyrraedd y targed medalau.”