Mae’r Seintiau Newydd allan o Ewrop ar ôl colli o 3-0 dros y ddau gymal yn erbyn Slovan Bratislava – ond fe frwydron nhw nes y diwedd neithiwr i geisio cipio canlyniad.
O flaen torf o 1,140 yn Stadiwm Corbett Sports, Y Rhyl, fe lwyddodd Y Seintiau i gadw’r gêm yn ddi-sgôr yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, nes i Marko Millinkovic rwydo gyda chwarter awr i fynd.
Fe seliodd Millinkovic y canlyniad gyda’i ail gôl funud o’r diwedd, gyda’r gêm yn gorffen yn 2-0 i’r ymwelwyr.
Roedd y Seintiau wedi colli’r cymal cyntaf o 1-0 yn Bratislava, ond cyn y gêm neithiwr fe ddywedodd eu rheolwr Craig Harrison ei fod yn hyderus y gallai ei dîm wyrdroi’r canlyniad.
A thra bod y gêm yn ddi-sgôr roedd y Seintiau’n gwybod fod ganddyn nhw obaith petai nhw’n llwyddo i fachu o leiaf un a chadw pethau’n dynn yn yr amddiffyn.
Fe ddaeth y cyfleoedd yna i’r Seintiau, er mai Slovan Bratislava oedd yn rheoli’r gêm unwaith eto, gyda Greg Draper a Mike Wilde yn methu â manteisio i’r tîm cartref.
Ond fe lwyddodd Millinkovic i ganfod ffordd drwy amddiffyn y Seintiau yn y diwedd, gyda’i gôl gyntaf mwy neu lai yn setlo’r canlyniad a’r ail, o gic rydd, yn cwblhau trip llwyddiannus i’r tîm o Slofacia.
Gall y Seintiau fod yn falch o’u perfformiad dros y ddau gymal. Ond gyda nhw a’r tri thîm a gystadlodd yng Nghynghrair Ewropa – Aberystwyth, Airbus a Bangor – i gyd allan ar y cynnig cyntaf, mae cwestiynau’n parhau dros beth sydd angen ei wneud er mwyn gwella safon timau Cymru yn Ewrop.