Nikki Sinclaire, cyn-ASE UKIP
Mae cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP wedi’i chyhuddo o dwyll ariannol ac o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar ôl ymchwiliad i’r arian yr oedd hi’n ei hawlio am dreuliau.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) fod Nikki Sinclaire, a gollodd ei sedd yn Senedd Ewrop yn gynharach eleni, wedi’i chyhuddo o’r troseddau gan Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran y CPS fod y troseddau honedig wedi’u cyflawni pan oedd Sinclaire yn ASE rhwng Hydref 2009 a Gorffennaf 2010.
Cafodd ei hethol fel ASE UKIP yn 2009, ond fe adawodd y blaid a sefyll ar ran y blaid We Demand A Referendum Now o 2010.
Dywed y CPS bod Nikki Sinclaire, 45, wedi ei chyhuddo gan Heddlu’r West Midlands.
Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Birmingham ar 17 Medi .
Cafodd ei harestio’n wreiddiol ym mis Chwefror 2012 ac mae wedi bod ar fechnïaeth ers hynny.