Darn o awyren MH17
Mae blychau du awyren MH17, a gafodd ei tharo gan daflegryn yn yr Wcráin wythnos diwethaf, wedi cyrraedd Prydain er mwyn cael eu harchwilio.

Dywedodd y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) fod awdurdodau’r Iseldiroedd wedi trosglwyddo’r blychau du i bencadlys yr AAIB yn Farnborough, Swydd Hampshire.

Bydd yr ymchwilwyr nawr yn gwrando ar y wybodaeth yn y blychau gan gynnwys dwy awr o sgyrsiau’r peilotiaid yn ogystal â recordydd data’r awyren er mwyn ceisio darganfod beth yn union ddigwyddodd iddi.

Cafodd awyren Malaysia Airlines MH17 ei tharo gan daflegryn yn nwyrain Wcráin ddydd Iau diwethaf wrth hedfan o Amsterdam i Kuala Lumpur. Bu farw’r 298 o bobl oedd ar fwrdd yr awyren.

Y gred yw mai gwrthryfelwyr Rwsiaidd yn yr Wcráin oedd yn gyfrifol am danio’r taflegryn.

Mae disgwyl y bydd AAIB yn medru anfon manylion eu canfyddiadau i awdurdodau’r Iseldiroedd o fewn 24 awr.

Diwrnod o alaru

Mae’r Iseldiroedd heddiw wedi cyhoeddi diwrnod o alaru er cof am y rhai fu farw, oedd yn cynnwys 193 o ddinasyddion y wlad.

Fe gludwyd tua 60 o’r cyrff cyntaf yn ôl i’r Iseldiroedd heddiw, gyda’r Prif Weinidog Mark Rutte yn rhybuddio y gallai gymryd “wythnosau neu hyd yn oed fisoedd” i adnabod yr holl bobl fu farw.

Yn ôl y gwrthryfelwyr sydd yn rheoli’r ardal ble daeth yr awyren i lawr, maen nhw wedi canfod 282 o gyrff, ac mae dros 200 o’r rheiny bellach wedi’u trosglwyddo i awdurdodau’r Wcrain yn Kharkiv.

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Prydain David Cameron wedi awgrymu na ddylai Ffrainc barhau i werthu cludwyr hofrenyddion i Rwsia yn dilyn y digwyddiad – a hynny er bod Prydain yn parhau i werthu arfau i Rwsia.

Mae Maer Llundain Boris Johnson hefyd wedi awgrymu y gallai dynnu nôl o chwarae gêm denis gyda Cameron yn erbyn gwraig cyn-weinidog yng nghabinet llywodraeth Rwsia.

Yn ôl adroddiadau roedd y ddynes wedi talu £160,000 mewn ocsiwn i godi arian tuag at y blaid Geidwadol am gael chwarae’r gêm.