Mae 51 o bobl wedi’u lladd a saith wedi’u hanafu ar ôl i awyren geisio glanio ar frys mewn tywydd stormus yn Taiwan, yn ôl adroddiadau.

Credir bod awyren TransAsia Airways yn cludo 54 o deithwyr a phedwar o staff a’i bod yn teithio o’r brifddinas Taipei i ynys fechan Penghu.

Yn ôl swyddogion y gwasanaeth tan yno, fe ddigwyddodd y ddamwain wrth i’r awyren geisio glanio am yr ail waith ar yr ynys.

Roedd Taiwan wedi dioddef yn sgil Teiffŵn Matmo ac mae’n debyg bod y swyddfa dywydd wedi rhybuddio am law trwm.