Ian Watkins
Mae’r Llys Apêl wedi gwrthod cais gan Ian Watkins i apelio yn erbyn ei ddedfryd o 35 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw.
Fe benderfynodd panel o farnwyr yn Llys y Goron Caerdydd na fyddan nhw’n caniatáu iddo apelio yn erbyn hyd ei ddedfryd.
Cafwyd Watkins, 37, yn euog o 13 o droseddau rhyw yn erbyn plant ym mis Rhagfyr y llynedd.
Ymysg y troseddau y cyfaddefodd iddynt oedd ymgais i dreisio babi 11 mis oed yn ogystal ag annog rhywun i gam-drin babi dros y we.
Roedd cyn-ganwr y Lostprophets, sy’n dod o Bontypridd, wedi dadlau bod y ddedfryd yn rhy lym.
Dywedodd Sally O’Neil QC, ar ran Watkins, nad oedd digon o ystyriaeth wedi cael ei roi i’r ffaith ei fod wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau, gan olygu nad oedd yn rhaid gwrando ar dystiolaeth a allai fod wedi peri gofid i’r rhai oedd yn gysylltiedig â’r achos, gan gynnwys y rheithgor.
Ond dywedodd yr Arglwydd Ustus Pitchford bod y ddedfryd yn briodol o ystyried difrifoldeb y troseddau.
Fe benderfynwyd hefyd i wrthod apêl gan fam un o’r plant gafodd eu cam-drin, a oedd hefyd yn apelio yn erbyn hyd ei dedfryd.