Cerys Matthews
Mae llyfr gan y bardd, awdur a’r sgriptiwr o Gymru, Owen Sheers, ymysg y 15 o lyfrau eraill sydd wedi eu dewis i gystadlu am Wobr Ryngwladol Dylan Thomas 2014 ynghyd a £30,000.
Mae amrywiaeth o farddoniaeth, rhyddiaith a drama ar y rhestr hir eleni, gan awduron o bob cwr o’r byd – o’r Unol Daleithiau i India a Jamaica.
Cafodd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, sy’n cael ei noddi gan Brifysgol Abertawe, ei lansio yn 2006. Ei nod yw annog doniau creadigol newydd yn fyd-eang ac mae gwobr o £30,000 am y gwaith gorau a gyhoeddwyd neu a gynhyrchwyd yn yr iaith Saesneg gan awdur sy’n 39 oed neu’n iau.
Eleni, mae’r gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan y gantores Cerys Matthews a Peter Stead, sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas.
‘Dawn anhygoel’
Dywedodd Cerys Matthews: “Mae’r rhestr hir eleni yn arbennig o dda, ac rydym wedi denu awduron rhyngwladol ifanc sydd â dawn anhygoel.
“Mae’n fraint bod yn rhan o’r panel beirniadu eleni, a hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas”.
Fe fydd enillydd y wobr yn cael ei chyhoeddi mewn cinio gala yn Abertawe ym mis Tachwedd.
Dyma’r rhestr lawn o’r llyfrau a’i awduron:
- Daniel Alarcón, At Night We Walk in Circles (Fourth Estate)
- Eleanor Catton, The Luminaries (Granta)
- John Donnelly, The Pass (Faber & Faber)
- Joshua Ferris, To Rise Again at a Decent Hour (Viking)
- Emma Healey, Elizabeth is Missing (Viking)
- Meena Kandasamy, The Gypsy Goddess (Atlantic Books)
- Eimear McBride, A Girl is a Half-Formed Thing (Faber & Faber)
- Kseniya Melnik, Snow in May (Fourth Estate)
- Kei Miller, The Cartographer Tries to Map a Way to Zion (Carcanet Press)
- Nadifa Mohamed, The Orchard of Lost Souls (Simon & Schuster)
- Owen Sheers, Mametz (National Theatre Wales)
- Tom Rob Smith, The Farm (Simon & Schuster)
- Rufi Thorpe, The Girls from Corona del Mar (Knopf)
- Naomi Wood, Mrs Hemingway (Picador)
- Hanya Yanagihara, The People in the Trees (Atlantic Books)
Am fwy o wybodaeth am ewch i: Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas