Peaches Geldof
Bydd cwest llawn i farwolaeth Peaches Geldof, a gafodd ei chanfod yn farw yn ei chartref ar ôl cymryd heroin, yn cael ei gynnal heddiw.
Bu farw’r gyflwynwraig deledu a model 25 oed, oedd yn ferch i’r canwr Bob Geldof, ar 7 Ebrill gan adael gŵr a dau o blant.
Pan agorodd y cwest ym mis Mai fe glywyd gan ei gŵr Thomas Cohen ei fod wedi canfod Peaches Geldof ar wely ystafell sbâr eu cartref yn Wrotham, yng Nghaint.
Dywedodd ei fod wedi’i chanfod yn farw ar ôl iddi fethu ag ateb ei ffôn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Paul Fotheringham wrth y gwrandawiad yn Gravesend fod defnydd diweddar o heroin “yn debygol o fod wedi chwarae rhan” yn ei marwolaeth.