Ian Watkins
Bydd cyn-ganwr Lostprophets Ian Watkins yn gwneud cais i apelio yn erbyn ei ddedfryd o 35 mlynedd yn y carchar am droseddau rhyw heddiw.

Fe fydd panel o farnwyr yn Llys y Goron Caerdydd yn penderfynu a oes sail i’w apêl, ar ôl iddo ei gael yn euog o 13 o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Dyw Ian Watkins ddim yn apelio yn erbyn y dyfarniad, ond yn hytrach yn erbyn hyd y ddedfryd. Mae’n credu bod y ddedfryd yn rhy hallt.

Ymysg y troseddau y cyfaddefodd iddynt oedd ymgais i dreisio babi 11 mis oed yn ogystal ag annog rhywun i gam-drin babi dros y we.

Yn wreiddiol fe blediodd yn ddieuog i’r cyhuddiadau cyn newid ei ble ar y funud olaf.

Cafodd dwy ddynes arall, Dynes A a Dynes B, eu carcharu ar y pryd am 14 mlynedd a 16 mlynedd am gydweithio â Watkins, ac fe fydd Dynes B hefyd yn apelio yn erbyn ei dedfryd yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Mae disgwyl i’r tri barnwr, Yr Arglwydd Ustus Pitchford, Yr Ustus Griffith Williams a’r Ustus Simler ddechrau gwrando ar yr achos am tua hanner dydd heddiw.