Symud rhai o'r cyrff o'r safle ddoe
Mae llywodraeth yr Iseldiroedd wedi cyhoeddi diwrnod cenedlaethol o alaru heddiw er cof am y rhai fu farw ar awyren MH17, wrth i’r cyrff cyntaf ddechrau cael eu cludo adref.
Fe fydd teulu brenhinol y wlad yn Eindhoven heddiw gyda pherthnasau rhai o’r 289 fu farw – oedd yn cynnwys 193 o’r Iseldiroedd a 10 o Brydain – ar ôl i’r awyren Malaysia Airlines daro’r ddaear yn nwyrain yr Wcráin ddydd Iau diwethaf.
Y gred yw bod yr awyren wedi cael ei saethu gan wrthryfelwyr yn yr Wcrain sydd yn gefnogol i Rwsia. Yn ôl swyddogion cudd-wybodaeth yn yr Unol Daleithiau nid oes tystiolaeth bod llywodraeth Rwsia wedi bod yn gysylltiedig â’r ymosodiad ac mae’n debyg bod gwrthryfelwyr wedi targedu’r awyren mewn camgymeriad.
Ddoe roedd y gwrthryfelwyr wedi caniatáu i rai o’r cyrff gael eu cludo o’r safle ac mae disgwyl i’r rhai cyntaf gyrraedd Eindhoven heddiw. Fe ddywedodd llywodraeth yr Iseldiroedd y byddan nhw’n cynnal munud o dawelwch cyn i’r cyrff gael eu cludo i farics milwrol i gael eu hadnabod.
Gwledydd Ewrop yn trafod
Daw’r galar wrth i arweinwyr gwledydd Ewropeaidd anghytuno dros gyflwyno rhagor o sancsiynau yn erbyn Rwsia yn dilyn y digwyddiad.
Mewn cyfarfod o’r Undeb Ewropeaidd ddoe fe gytunwyd i ddechrau gosod sancsiynau economaidd yn erbyn rhai Rwsiaid sydd yn gysylltiedig â’i harlywydd Vladimir Putin.
Mae David Cameron wedi beirniadu rhai gwledydd am beidio â chymryd camau cryfach yn erbyn Moscow, gan awgrymu na ddylai Ffrainc barhau i werthu hofrenyddion i Rwsia.
Ond mae Aelodau Seneddol ym Mhrydain wedi rhybuddio’r Prif Weinidog rhag bod yn rhagrithiol, gan fod Prydain hefyd yn allforio arfau a nwyddau milwrol gwerth degau o filiynau o bunnoedd i Rwsia.
Er bod y Gweinidog Tramor ar y pryd William Hague wedi dweud ym mis Mawrth y byddan nhw’n stopio gwerthu arfau i Rwsia allai gael eu defnyddio yn erbyn yr Wcrain, dim ond 34 trwydded allforio i Rwsia sydd wedi’u dileu neu eu cyfyngu, gyda 251 yn parhau mewn grym.
Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi galw ar y Ceidwadwyr i ddychwelyd gwerth £900,000 o roddion y maen nhw wedi’i dderbyn gan bobl sydd â chysylltiadau â llywodraeth Rwsia.
Mae’n cynnwys £160,000 a dalodd gwraig cyn-weinidog yng nghabinet Putin am gêm o denis gyda David Cameron a Maer Llundain Boris Johnson.