Mae pennaeth y BBC, Tony Hall, wedi amddiffyn y gorfforaeth ar ol iddi gael ei beirniadu am wneud gormod o raglenni adloniant.
Daeth ei sylwadau yn sgil adroddiadau y bydd y BBC yn cael gwared a channoedd o swyddi yn yr adran newyddon yr wythnos hon.
Mae’r BBC wedi mwynhau llwyddiant mawr gyda rhaglenni adloniant fel Strictly Come Dancing, ond mae’r gorfforaeth wedi cael ei beirniadu am geisio efelychu darlledwyr eraill gyda rhaglenni talent fel The Voice.
Dywedodd yr Arglwydd Hall wrth Bwyllgor Dethol y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan bod y BBC yn gwneud llai o raglenni adloniant nag ITV ond fod y rhaglenni mae’r BBC yn eu cynhyrchu yn “dod â’r genedl ynghyd.”
Meddai: “Rydym yn fuddsoddwr mawr mewn comedi Prydeinig.
“Os ydych yn edrych ar Miranda, The Wrong Mans neu Mrs Brown’s Boys, mae’r rhain yn ffyrdd pwysig iawn o gyfrannu tuag at ddiwylliant y DU.”
Cadarnhaodd Tony Hall y byddai cyfarwyddwr newyddion a materion cyfoes y BBC, James Harding, yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae staff eisoes wedi cael eu rhybuddio y bydd nifer “sylweddol” o ddiswyddiadau yn debygol yn yr adran newyddion ac mae rhai’n dyfalu y gallai 500-600 o swyddi ddiflannu.
Dywedodd Tony Hall: “Mae gwasanaeth newyddion y BBC yn wynebu’r hyn y mae gweddill y BBC yn ei wynebu – 26% o doriad yn y swm o arian sydd ar gael ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau.”