Mair Tomos Ifans gyda'i thelyn ei hun, Catrin Glyn (Swyddog Datblygu'r Lasynys) a Mathew a Mai Jones sy'n gwirfoddoli'n gyson yn y Lasynys
Mae telyn y Bardd Cwsg, Ellis Wynne, wedi dychwelyd adref i’r Lasynys Fawr, sef cartref a man genedigol y llenor ger Harlech yng Ngwynedd.

Telyn unres, werinol yw hon sy’n dyddio yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg, ac mae’n un o’r enghreifftiau cynharaf o’i bath. Mae ar fenthyg i’r Lasynys Fawr ar hyn o bryd o Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

“Mae’n delyn fendigedig ac yn hynod o drawiadol, ac yn wir, yn werth ymweld â’r tŷ hanesyddol i’w gweld,” meddai llefarydd ar ran Cyfeillion Ellis Wynne.

“Pleser o’r mwyaf ydi derbyn y delyn ac mae diolch Cyfeillion Ellis Wynne yn dwymgalon iawn i’r Amgueddfa am ganiatáu i’r gwrthrych hanesyddol ac arwyddocaol yma, nid yn unig i Ardudwy, ond i Gymru, ddychwelyd adref.”

Ganed Ellis Wynne yn 1671 ac mae’n adnabyddus fel awdur Gweledigaethau y Bardd Cwsc, sy’n cael ei ystyried yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg.

Mae cyfle i’r cyhoedd fynd i weld y delyn yn y Lasynys, sydd ar agor bob dydd rhwng 1 – 4 y prynhawn, ac eithrio dyddiau Sadwrn a Llun.