Y cyn filwr Daron Vaughan Davies
Dydi’r Llywodraeth yn San Steffan ddim yn gwneud digon i helpu cyn filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl ar ôl iddyn nhw ddod adref o Affganistan.

Dyna farn ffrind cyn filwr o ogledd Cymru wnaeth ladd ei hun ddwy flynedd yn ôl. Mae Dyfed Price yn siarad ar raglen materion cyfoes S4C, Y Byd Ar Bedwar, heno.

Meddai Dyfed Price o Bentir ger Bangor: “Os ydi hogiau yn mynd i gwffio dros eu gwlad yna mi ddylai’r wlad gymryd y cyfrifoldeb a gwatjad ar eu hola nhw wedyn.”

Ac mae’n dweud na ddigwyddodd hynny yn achos ei ffrind a chydweithiwr yn y Gwarchodlu Cymreig, Daron Vaughan Davies, wnaeth ladd ei hun yn 2012.

‘Rhwystredigaeth’

Roedd Daron Vaughan Davies yn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig oedd yn ymladd yn nhalaith Helmand yn Affganistan yn ystod haf 2009 pan gafodd 59 o filwyr Prydeinig eu lladd.

Ar ddechrau 2012, fe wnaeth y cyn-filwr 24 oed dorri i lawr a cheisio lladd ei hun ond llwyddodd Dyfed Price i’w achub y tro hwnnw.

Bu Dyfed a’i wraig Emma yn ceisio ffonio am help ond chawson nhw ddim ond rhwystredigaeth. Fe gysyllton nhw a’r Lleng Prydeinig, ei gatrawd, ac wedyn Help For Heroes.

Meddai Dyfed Price: “Naethon ni drio pawb. A’r llefydd oeddech chi’n disgwyl helpu oedd yn methu helpu.

“Help For Heroes nath alw ni yn ôl a nhw nath helpu ni i gael apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd. Neb o’r ‘regiment’ a neb o’r Llywodraeth.”

‘Diwylliant y fyddin ddim wedi helpu’

Aeth y cyn filwr i mewn i ward iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd lle y bu am bythefnos. Wythnos ar ôl dod adref i’r fflat ym Methel fe wnaeth grogi ei hun.

Rheithfarn naratif  a gofnodwyd yn y cwest i’w farwolaeth am nad oedd digon o dystiolaeth ei fod wedi bwriadu lladd ei hun yn ôl y crwner.

Yn ôl ei gyn gariad, Tara Evans fe gafodd Afghanistan effaith fawr ar Daron.  “Oedd o wedi effeithio gymaint ar fywyd Daron. Erbyn y diwedd oedd o’n methu gneud dim byd,” meddai.

Mae’n dweud fod Daron yn berson oedd ddim eisiau ffỳs ac na fyddai byth wedi cyfaddef fod o’n dioddef o afiechyd meddwl. Ond doedd diwylliant y fyddin ddim yn help chwaith meddai.

Gwasanaeth ar gyfer cyn filwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu gwasanaeth arbennig ar gyfer cyn filwyr – ‘GIG Cyn filwyr Cymru’ sy’n derbyn tua hanner miliwn o bunnau o’r pwrs cyhoeddus. Mae ganddyn nhw wasanaeth therapi ar gyfer cyn filwyr ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru a’r llynedd fe wnaethon nhw ddelio efo bron i 400 o gleientiaid.

Doedd llefarydd ar ran Y Weinyddiaeth Amddiffyn yn San Steffan ddim yn fodlon trafod unrhyw achos unigol ond fe ddwedodd ei bod hi’n drasiedi pan mae aelod neu gyn-aelod o’r Lluoedd Arfog yn lladd ei hun.

“Mae hunanladdiadau yn dal yn eithriadol brin ymysg aelodau o’r Lluoedd Arfog,” meddai, “ac mae’n llai na chyfraddau tebyg ymhlith y boblogaeth sifil.”

“Mae iechyd meddwl milwyr a chyn filwyr yn cael y flaenoriaeth uchaf gan y Llywodraeth a dyna pam ydan ni wedi rhoi £7.4 miliwn i wneud yn siŵr fod yna gefnogaeth eang ar gael ar gyfer pawb sydd ei angen.”

‘Euogrwydd’

Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Daron Vaughan Davies mae Dyfed Price yn teimlo’n euog am farwolaeth ei ffrind.

“Ella mod i’n beio’n hun. Pam na faswn i’n sylweddoli fod o ddim ddigon da ar ôl bod i mewn yn yr ysbyty?,” meddai. Ond mae’n dweud fod mwy o fai ar y Llywodraeth.

“Doedd yna ddim cefnogaeth yna i Daron. A ‘di’r Llywodraeth ddim yn cefnogi’r hogiau. Digon da taflu nhw allan yna. Mae’n amser iddyn nhw sefyll i fyny a gwatjad ar ôl nhw pan ma’ nhw’n ôl adra.”

Ddiwedd y flwyddyn yma bydd y rhan fwyaf o luoedd NATO yn gadael y wlad ar ôl 13 mlynedd o ryfela pan gafodd bron i 450 o filwyr Prydain eu lladd.

Bydd y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu am 9.30yh heno (nos Fawrth, 15 Gorffennaf) ar S4C.