SuperTed Llun: BBC
Bydd SuperTed yn dychwelyd i’r sgrin fach yn 2016 wedi absenoldeb o 30 mlynedd.

Bydd y gyfres newydd, a fydd yn cael ei ddarlledu ar y BBC, yn cynnwys 26 pennod newydd o’r cartŵn ac mae’n dilyn adfywio nifer o gyfresi plant eraill fel Thunderbirds, The Wombles, The Clangers, Dangermouse, Bob the Builder a’r Teletubbies.

Cafodd cymeriad SuperTed ei greu gan Mike Young, fydd yn rhan o’r cynhyrchiad newydd.

Cafodd y gyfres wreiddiol ei chynhyrchu yng Nghymru gan Siriol Productions – i S4C yn wreiddiol cyn i’r BBC ei darlledu hefyd.

Meddai Mike Young wrth y Radio Times ei fod yn gobeithio y bydd Derek Griffiths, 67, wnaeth leisio SuperTed yn y gyfres wreiddiol, yn dychwelyd i’w rôl.

Ond ychwanegodd na fydd y gyfres mor wleidyddol anghywir ag oedd hi yn yr 1980au.

Meddai Mike Young:  “Yn SuperTed, roedd ‘na gowboi â gwn, sgerbwd hoyw, boi tew oedd yn destun jôcs am ei bwysau a’r holl bethau na fyddai’n gwneud heddiw.

“Ond, mae hi dal yn bosibl sgwennu’r sioe mewn ffordd ddoniol a difyr.”