Cheryl Cole
Mae’r gantores a beirniad y gyfres X Factor, Cheryl Cole, wedi priodi ei chariad o dri mis mewn seremoni gudd ar draeth yn y Caribî.

Cyhoeddodd ar ei gwefan ei bod hi a Jean-Bernard Fernandez-Versini, sy’n dod o Ffrainc, wedi priodi’r wythnos diwethaf.

“Dwi ddim fel arfer yn trafod fy mywyd personol ond er mwyn rhoi taw ar y dyfalu dw i eisiau rhannu fy newyddion hapus…mi wnes i a Jean-Bernard briodi ar 7/7/14,” meddai’r gantores 31 oed.

“Rydym yn hapus iawn ac yn edrych ymlaen at symud ymlaen gyda’n bywydau.”