Ioan Kidd yn derbyn ei wobr
Mae awdur buddugol Llyfr y Flwyddyn, Ioan Kidd, wedi dweud ei fod ‘wir ddim yn disgwyl’ ennill ar ôl iddo gipio tair o wobrau’r noson yn y seremoni nos Iau.

Fe ddyfarnwyd nofel yr awdur, ‘Dewis’ yn fuddugol yng nghategori Ffuglen y gwobrau yn ogystal â phrif wobr Llyfr y Flwyddyn yn y Gymraeg.

Llwyddodd y nofel i gipio gwobr Barn y Bobl hefyd, ar ôl iddi ddod i’r brig mewn pôl piniwn ar wefan golwg360.

Wrth siarad ar ôl y seremoni ble cafodd gyfanswm o dair gwobr, dywedodd Ioan Kidd nad oedd wedi breuddwydio y byddai’n cael noson mor llwyddiannus.

“Dw i mewn sioc a dweud y gwir!” meddai’r awdur. “Dw i methu credu’r peth, doeddwn i wir, wir ddim yn disgwyl hyn.

“Dw i mor ddiolchgar i bobl am fod nhw wedi mynd i’r drafferth a phleidleisio [yng ngwobr Barn y Bobl] fel hyn.

“Mae ‘na wahaniaeth mawr rhwng dweud rhywbeth wyneb yn wyneb a phleidleisio.”

Roedd y nofel fuddugol yn bortread o deulu dosbarth canol cyfoes yn ne Cymru ac yn trafod pynciau fel tor-priodas a’r perthnasau y tu fewn i’r teulu.

Dywedodd yr awdur ei fod yn “browd iawn” o’i waith gorffenedig.

“Roedd hi’n nofel anodd i’w sgwennu achos dyw’r ddwy brif thema ddim yn ennyn llawer o hwyl ar un olwg,” meddai Ioan Kidd.

Roedd gan un o feirniaid y gystadleuaeth, y bardd Eurig Salisbury, glod mawr tuag at nofel y llwyddodd ymgolli ei hun ynddi.

“Roedd ‘na elfen gredadwy yn y gyfrol sydd ddim yn y rhan fwyaf o’r nofelau eraill,” cyfaddefodd y beirniad.

“Ro’n i’n gallu anghofio drwy’r rhan fwyaf o’r amser ro’n i’n darllen ‘Dewis’ mod i’n darllen o gwbl.”

Bydd modd gwylio fideos o’r cyfweliad llawn gyda Ioan Kidd, Eurig Salisbury, a’r beirniadaethau o’r noson wobrwyo ar Ap Golwg yr wythnos hon.