Mae EP cyntaf cyn ganwr Texas Radio Band yn cael ei ryddhau heddiw.
Losin Pwdr yw enw prosiect cerddorol newydd Matthew ‘Mini’ Williams a recordiodd yr EP mewn stiwdio a adeiladodd ei hun yng Ngwlad y Basg, ble mae’n byw.
Meddai label cerddoriaeth Peski mewn datganiad bod y record, ‘Câr Dy Henaint’, yn adlewyrchiad cerddorol o feddylfryd Mini wrth iddo droi’n 30 mlwydd oed.
Mae’r record hefyd yn cynnwys fersiwn o ‘Xalbadorren Heriotzean’ gan Xabier Lete, cân Basgaidd am hen fardd a bugail o’r enw Xalbador.
Meddai’r datganiad gan Peski fod y gerddoriaeth yn cynnwys “elfennau o synau lleisiol, acwstig ac electronig.”