Richard Harrington yn Y Gwyll
Gwylwyr yng Ngwlad Belg fydd y cyntaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig i weld cyfres dditectif S4C, Y Gwyll/Hinterland, yn yr iaith Gymraeg.
Bydd y bennod gyntaf o’r ddrama yn cael ei dangos ar sianel Canvas heno, i ddechrau wythnos o ddramâu trosedd ar y sianel.
Ac i nodi’r darllediad Cymraeg tramor cyntaf, mae noson première – sy’n cael ei drefnu gan S4C, Llywodraeth Cymru ac All3Media International – yn cael ei chynnal yng Nghartref Swyddogol Llysgennad y DU ym Mrwsel.
Croesi ffin
“Mae hon yn garreg filltir bwysig yn stori llwyddiant Y Gwyll/Hinterland,” meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C.
“Fel comisiynydd a darlledwr gwreiddiol Y Gwyll/Hinterland mae S4C ynghyd â’n partneriaid wedi gweithio’n galed i greu cynnyrch fyddai’n apelio at gynulleidfa eang yng Nghymru yn y lle cyntaf ond a fyddai hefyd â’r potensial i apelio at gynulleidfa ehangach y tu hwnt i Gymru a’r Deyrnas Unedig.
“Mae’r darllediad Cymraeg cyntaf hwn o’r cynhyrchiad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn dangos bod modd i ddrama o’r ansawdd uchaf – o’r sgriptio a chynllunio stori i’r actio a’r cynhyrchu – groesi unrhyw ffin.
“Rydym yn gobeithio y bydd gwylwyr Canvas yn ei mwynhau nid yn unig am ei straeon ond hefyd yn mwynhau diwylliant ac iaith unigryw a fydd o bosib yn gwbl newydd iddyn nhw.”
Ar hyn o bryd, mae ail gyfres Y Gwyll/Hinterland yn cael ei pharatoi, gyda’r gwaith ffilmio yn dechrau yng Ngheredigion Cymru ym mis Medi, 2014.