Manic Street Preachers
Mae’r Manic Street Preachers wedi cyrraedd rhif dau yn siart albwm y DU gyda’u deuddegfed albwm, ‘Futurology’.

Dyma’r pumed gwaith iddyn nhw gyrraedd yr ail safle yn y siart ond tydyn nhw ddim ond wedi cyrraedd y safle cyntaf unwaith gyda ‘This is My Truth, Tell Me Yours’ yn 1998.

Mae ‘Futurology’ wedi cael derbyniad da gan ffans y band a’r wasg ond doedd dim digon o gopïau wedi cael eu gwerthu i gymryd lle Ed Sheeran yn rhif un.

Meddai Nicky Wire, basydd y Manic Street Preachers, ar i gyfrif Twitter: “Diolch enfawr gennym ni i bawb a brynodd Futurology – a sgrifennodd amdano – a drydarodd – wnaeth sgrechian + a welodd yn fyw – xxxxxx”