Peter Capaldi sy'n chwarae rhan Doctor Who
Mae ffilm sy’n dangos rhan o gyfres newydd Doctor Who wedi ymddangos ar y we bron i chwe wythnos cyn darlledu’r gyfres newydd.
Nid yw’r gyfres, sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd, i fod i gael ei darlledu tan fis Awst ond mae rhan o bennod mewn du a gwyn, heb effeithiau arbennig, wedi ymddangos ar y we.
Mae penaethiaid y BBC eisoes yn ymchwilio i sut wnaeth nifer o sgriptiau’r gyfres newydd, sydd a Peter Capaldi yn chwarae rhan Doctor Who, hefyd ymddangos ar y we.
Mae’r BBC wedi atgoffa ffans y rhaglen ei bod hi’n anghyfreithlon bod ym meddiant y ffilm yn ogystal â’i rhannu hi.
Meddai llefarydd ar ran y BBC: “Mae hyn yn rhan o ymchwiliad diogelwch parhaus i ddeunyddiau Doctor Who sydd wedi ymddangos ar y we.
“Hoffem ddiolch i ffans anhygoel Doctor Who sy’n parhau i gadw gwefannau ffans a gwefannau cyfryngau cymdeithasol yn rhydd o gynnwys sy’n difetha’r gyfres i eraill.
“Ond hoffem atgoffa’r rhai sy’n lawrlwytho a rhannu’r deunydd hwn ei bod hi’n anghyfreithlon gwneud hynny.”
Mae’r gyfres newydd yn dechrau ar 23 Awst.