Y Fenni
Bydd cyfarfod arbennig yn y Fenni nos Iau (17 Gorffennaf) i baratoi ar gyfer dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal ymhen dwy flynedd.

Bwriad y cyfarfod, am 18.30 yn Neuadd y Farchnad, yw gwahodd trigolion lleol Sir Fynwy i fod yn rhan o’r paratoadau a’r trefniadau.  Mae trefnwyr yn awyddus i ddenu pobl o bob cwr o’r sir i’r cyfarfod, ac i’r gwaith o baratoi ar gyfer y Brifwyl ddechrau cyn gynted ag y bo modd. Bydd offer cyfieithu ar gael yno.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, “Mae cefnogaeth leol i ymweliad yr Eisteddfod wedi bod yn ardderchog erbyn hyn, a rydym yn edrych ymlaen i gynnal y cyfarfod ac i gychwyn ar y gwaith.  Er ein bod wedi ymweld ag ardaloedd cyfagos dros y blynyddoedd, mae’n anodd credu nad yw’r Eisteddfod wedi ymweld ag ardal Sir Fynwy ers dros ganrif.  1913 oedd y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn y Fenni.

“Anodd fyddai trefnu Eisteddfod heb gefnogaeth a chymorth llu o wirfoddolwyr lleol, ac rwy’n gobeithio y byddwn yn croesawu nifer fawr o hen ffrinidiau o’r ardaloedd cyfagos a llu o wynebau newydd i’r cyfarfod yn Y Fenni nos Iau.”