Ioan Kidd yn derbyn y brif wobr
Mewn seremoni fawreddog yn Galeri Caernarfon heno, fe gyhoeddwyd mai nofel Ioan Kidd, Dewis, yw enillydd prif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2014.
Daeth yr awdur o Gaerdydd i’r brig o’r naw llyfr Cymraeg oedd ar y rhestr fer, a rheiny’n gymysgedd o lyfrau Ffeithiol-Greadigol, ffuglen a chyfrolau barddoniaeth.
Aeth y brif wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn i Owen Sheers am Pink Mist.
Wrth gyflwyno’r wobr i Ioan Kidd, dywedodd Lowri Cooke bod ‘Dewis’ “yn gampwaith diymhongar sy’n gafael yn yr enaid a gwrthod gadael fynd.”
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni oedd yr awdur, Gareth Miles, y bardd Eurig Salisbury, a’r awdur a’r blogiwr Lowri Cooke.
Ac ar y panel i feirniadu’r llyfrau Saesneg oedd y darlithydd Andrew Webb, yr awdur a’r newyddiadurwr Jasper Rees, a’r comedïwr Nadia Kamil.
Cafodd y seremoni ei chyflwyno gan y cyflwynydd teledu Rhodri Owen a’r actores Elen Roberts.
Lowri Cooke, un o’r beirniaid, yn cyhoeddi enillydd Llyfr y Flwyddyn:
Enillwyr
Cymraeg:
Enillydd y categori Barddoniaeth oedd Christine James – Rhwng y Llinellau, (Cyhoeddiadau Barddas);
Enillydd y categori Ffuglen oedd Ioan Kidd – Dewis (Gwasg Gomer);
Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol oedd Alan Llwyd – Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, (Gwasg Gomer)
Saesneg:
Enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias oedd Owen Sheers – Pink Mist (Faber and Faber)
Enillydd y categori Ffuglen oedd Francesca Rhydderch – The Rice Paper Diaries (Seren)
Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol oedd Meic Stephens, Rhys Davies: A Writer’s Life, (Parthian)
Datgelu
Wrth siarad â golwg360 cyn y seremoni dywedodd Eurig Sailsbury, ei bod yn braf cael datgelu’r enillwyr ar ôl misoedd o werthuso’r sgwennu:
“Dim ond chi sydd wedi darllen y llyfrau ‘ma i gyd, felly mae’n braf agor y peth fyny a chael trafod hefo pobol.
“Roeddem ni’n trio peidio chwilio am rywbeth penodol a jyst cymryd popeth heb unrhyw ragfarn. Neu drio peidio o leiaf.
“Nes i geisio gweld at be oeddwn i’n ymateb yn naturiol.”
Y Rhestr Fer
Dyma’r llyfrau oedd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:
Rhestr Fer Cymraeg:
Rhestr Fer Barddoniaeth
Rhwng y Llinellau, Christine James (Cyhoeddiadau Barddas)
Trwy Ddyddiau Gwydr, Sian Northey (Gwasg Carreg Gwalch)
Lôn Fain, Dafydd John Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas)
Rhestr Fer Ffuglen
Dewis, Ioan Kidd (Gwasg Gomer)
Paris, Wiliam Owen Roberts (Cyhoeddiadau Barddas)
Eneidiau, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)
Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol
Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, Alan Llwyd (Gwasg Gomer)
Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985, Derec Llwyd Morgan (Gwasg Gomer)
Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry-Williams, Angharad Price (Gwasg Gomer)
Rhestr Fer Saesneg:
Rhestr Fer Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
Barkin!, Mike Jenkins (Gwasg Carreg Gwalch)
The Shape of a Forest, Jemma L. King (Parthian)
Pink Mist, Owen Sheers (Faber and Faber)
Rhestr Fer Ffuglen
Clever Girl, Tessa Hadley (Jonathan Cape)
The Drive, Tyler Keevil (Myriad Editions)
The Rice Paper Diaries, Francesca Rhydderch (Seren)
Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol
Rhys Davies: A Writer’s Life, Meic Stephens (Parthian)
R. S. Thomas: Serial Obsessive, M. Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru)And Neither Have I Wings to Fly, Thelma Wheatley (Inanna Publications)