Mae’r actor George Clooney wedi gwrthod ymddiheuriad gan y Daily Mail wedi iddyn nhw gyhoeddi stori ar eu gwefan Mail Online yn honni bod yna densiynau crefyddol rhwng yr actor a’i ddarpar deulu yng nghyfraith.

Yn ôl George Clooney mae’r Mail Online y “math gwaethaf o dabloid” ac mae wedi cyhuddo’r cwmni Prydeinig o “gelu’r gwir”.

Roedd stori’r Mail Online yn honni bod darpar fam yng nghyfraith Clooney, sy’n dod o Beirut yn Lebanon,  wedi dweud nad oedd hi eisiau i’w merch, Amal Alamuddin, briodi’r actor.

Cafodd y stori ei thynnu oddi ar y wefan yn gynharach yr wythnos hon.

“Mae’r anghyfrifoldeb y dyddiau hyn i ecsbloetio gwahaniaethu crefyddol lle nad oes rhai’n bodoli, yn esgeulus – a fwy na hynny, yn beryg,” meddai George Clooney.

“Dylai’r syniad fod rhywun yn cythruddo rhan o’r byd er mwyn gwerthu papurau fod yn drosedd.”

Gwadu

Wedi i’r stori gael ei chyhoeddi yn wreiddiol, dywedodd llefarydd ar ran y Mail Online nad oedd yn “anwiredd, ond ei bod wedi cael ei rhoi mewn ffydd gan newyddiadurwr llaw rydd dibynadwy”.

Ond ar ôl i George Clooney gwyno, dywedodd y Daily Mail:

“Rydym yn credu George Clooney pan ddywed fod y stori yn anghywir ac rydym yn ymddiheuro iddo fo, Miss Amal Alamuddin a’i mam Baria, am unrhyw densiwn sydd wedi ei achosi.”

Mae George Clooney wedi wfftio’r ymddiheuriad gan ddweud: “Mae un peth yn debyg pan mae cwmni yn cael ei ddal yn gwneud rhywbeth o’i le, mae’r esgus o hyd yn waeth.”