Guto Harri
Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau eu bod wedi penodi tri ymddiriedolwr newydd i Awdurdod S4C – gan gynnwys y cyn-newyddiadurwr Guto Harri sy’n gweithio i News UK, cwmni Rupert Murdoch.

Y ddau arall yw Sian Lewis, prif weithredwr Menter Iaith Caerdydd, a Hugh Hesketh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych.

Gwaith Awdurdod S4C yw goruchwylio’r ffordd mae’r Sianel yn cael ei rheoli, ac mae’r corff annibynnol hefyd yn gyfrifol am weld beth yw barn y gynulleidfa ar y rhaglenni.

Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth San Steffan sy’n penodi aelodau’r Awdurdod.

Cefndir y tri

Dechreuodd Guto Harri ei yrfa yn newyddiadurwr gyda’r BBC, gan ohebu mewn nifer o feysydd gwleidyddol, cyn ymuno â thîm cyfathrebu Maer Llundain Boris Johnson.

Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cysylltiadau i gwmni Rupert Murdoch, News UK.

Bu Sian Lewis yn gweithio gyda chwmni teledu Fflic TV cyn ymuno â’r Urdd fel Swyddog Datblygu ac yna Rheolwr Rhanbarthol, ac yna symud i swydd gyda Menter Iaith Caerdydd.

Yn ogystal ag arwain y cyngor sir yn Ninbych, mae Hugh Hesketh Evans hefyd yn ffermwr gwartheg a defaid yn Llanelidan ger Rhuthun.

Mae Guto Harri a Sian Lewis wedi cael eu penodi yn aelodau cyffredinol i’r Awdurdod, tra bod cyfrifoldeb ychwanegol Hugh Evans yn cynnwys cadeirio’r Pwyllgor Archwilio.

Aelodau’r Awdurdod – Huw Jones (Cadeirydd), Dr Carol Bell, John Davies, Aled Eirug, Marian Wyn Jones, Elan Closs Stephens, Rheon Tomos, Guto Harri, Sian Lewis, Hugh Hesketh Evans.