Dyfed Edwards
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu arweinydd Cyngor Gwynedd, cynghorydd Plaid Cymru Dyfed Edwards, am awgrymu y dylai gwahanol gynghorau amrywio faint o wasanaethau Cymraeg maen nhw’n eu gynnig, yn dibynnu ar eu lleoliad daearyddol.

Yn gynharach heddiw fe awgrymodd Dyfed Edwards, sydd hefyd yn llefarydd iaith i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y dylai’r safonau iaith newydd gael eu gweithredu mewn modd mwy hyblyg.

Dywedodd fod angen ystyried y Gymraeg yn wahanol mewn gwahanol rannau o’r wlad, a hynny oherwydd bod “awdurdodau yn amrywio o ran proffil ieithyddol”.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau’r cynghorydd o Wynedd.

“Os yw Dyfed Edwards yn dadlau y dylai fod hyblygrwydd i gynghorau beidio â gwneud yr hyn maen nhw wedi addo ei wneud ers blynyddoedd o dan gynlluniau iaith, ma’ fe’n gwbl anghywir,” meddai Jamie Bevan, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Mae ‘na berygl yn yr hyn ma’ fe’n ddweud – ’sdim angen dewis rhwng statws a defnydd yr iaith – mae’n ddadl hen ffasiwn. Ydy e’n byw yn y chwedegau?

“Mae statws a defnydd iaith yn mynd law yn llaw. Diffyg polisïau recriwtio cadarn sydd wrth wraidd nifer o’r problemau mae’r cyrff yn eu hwynebu o ran methu darparu gwasanaeth yn Gymraeg, yn enwedig yn rhai o siroedd Gwent.

“Yn anffodus, ’sdim byd yn y safonau a fydd yn sicrhau bod cynghorau yn mynd i wella ar hynny.”

Comisiynydd y Gymraeg fydd yn gyfrifol am sicrhau bod rheolau’r Safonau Iaith yn cael eu dilyn pan fyddan nhw’n dod i rym yn 2015.

Mewn ymateb i sylwadau Dyfed Edwards, dywedodd y Comisiynydd Meri Huws y “dylai safonau a’r diffiniadau cysylltiedig ehangu ac nid cyfyngu ar allu presennol personau i ddefnyddio’r Gymraeg”.

Fe groesawodd Llywodraeth Cymru sylwadau Arweinydd Cyngor Gwynedd, gan ddweud eu bod yn cytuno mai “ffocws y Safonau newydd yw gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl ledled Cymru a chreu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd”.

Swyddi cyngor Cymraeg

Awgrymodd Cymdeithas yr Iaith hefyd nad oedd digon yn cael ei wneud i sicrhau bod Cymry Cymraeg yn cael eu denu i swyddi gyda chynghorau sir.

“Ar hyn o bryd, mae ‘da ni gylch dieflig lle mae ’na system addysg sy’n cynhyrchu mwy a mwy o siaradwyr Cymraeg, ond wedyn ’sdim dilyniant o ran polisïau recriwtio,” esboniodd Jamie Bevan.

“Mae’n golygu bod nifer o’r bobl ifanc yn gadael yr ardal ac rydyn ni’n colli eu sgiliau iaith. Wedyn, mae cynghorau yn dadlau nad oes modd iddyn nhw gynnig gwasanaethau Cymraeg. Mae angen i’r safonau iaith bontio rhwng y byd addysg a’r byd gwaith.”