Er iddi gael ei chynnwys yn y lein-yp swyddogol ar gyfer Gŵyl Wakestock, ni fydd Charlotte Church yn canu ym Mhen Llŷn y penwythnos hwn.

Yn ôl ei llefarydd mae’r gantores boblogaidd wedi gorfod canslo perfformiadau oherwydd iddi roi’r gorau i weithio gyda’i band.

Bydd Razorlight, Y Cledrau a Gwacamoli ymysg y bandiau’n rocio Wakestock eleni.

Mae disgwyl i 20,000 o bobol fynychu Wakestock sy’n cael ei gynnal ym Mhenrhos ger Pwllheli.